Postiwyd yn Heb gategori
|
Tagiwyd Ffilm
Rabbit-Proof Fence (Phillip Noyce, 2002). Ffilm gyntaf ynng Ngwyl Ffilmiau Theatr Mwldan, ac un dw i wedi bod yn edrych ymlaen ati ers blwyddyn. Merthyr yw prifddinas sanau gwyn, yn ôl y BBC: Dw i mor falch dw i newydd prynu trwydded teledu newydd. Ble fyddan ni heb y BBC? Sôn am hynny, dyma ail stori’r wythnos ’ma dw i wedi gweld ar wefan y BBC sy’n edrych fel bod hi’n seiliedig ar ddatganiad i’r wasg o archfarchnad. Pa mor ddespret ydyn nhw? Xenophilia (cyn i chi ofyn, cyrhaeddais i’r URL yn syth o Google – dw i ddim yn treulio lot o amser chwilio am born hoyw) – stori serch am Gymro Cymraeg a Sais ifanc sy’n cwympo mewn cariad yn ystod y gwersi Cymraeg a hanes mae’r un yn rhoi i’r llall. Dim byd hardcore, ond mae’n bosib dyw hi ddim yn sâff i’r gweithle. Jôc da (tarddiad yr holl stori?) reit ar y diwedd. (Ypdêt: Dw i wedi ffeindio’r stori ar y wefan a’i gyhoeddwyd yn wreiddiol, sy’n llai tebyg i achosi problemau yn y gweithle, falle – h.y. dydy’r URL yn cynnwys y geiriau “gay” a “highschool”.) Mae edefyn newydd Maes E ar Meibion Glyndwr, sy wedi wneud i fi sylw cynlleiad dw i’n gwybod amdanyn nhw, a’r holl adeg honno. Fel Cymro di-Gymraeg bondigrybwyll, thalais i ddim lot o sylw i’r ymgyrch ar y pryd. Dyma dehongliad o’r ymgyrch (Saesneg) sy’n rhoi lot o wybodaeth cefndirol. Bydda i’n postio mwy wrth ddod ar eu draws. Mae lot o hen rwtsh am MG, hefyd. Er enghraifft: …sy’n dangos pa mor hawdd yw e i ledu misinformation ar y we.. Calexico yn fyw. Hwrê! Miloedd o bethau wedi casglu gan Pitchfork – mwy bob dydd. Hwrê! Llond bol o stwff Jethro Tull ar dudalen o Wlad y Pwyl. Gan gynnwys ail fersiwn Cross Eyed Mary gan Iron Maiden. Hwrê! Hoff o John Peel? O, dere ymlaen, mae pawb yn hoffi John Peel. Dyma lot o MP3au gan bandiau sy wedi bod ar ei raglen yn y ddwy flynedd diweddaf. Super Furry Animals! M.C.Mabon! J.Mascis! Hwrê! Bandiau o’r sîn dan-ddaearol Gwlad y Pwyl. Heb ddeall gair o Bwyleg, dw i ddim yn gwybod pa fath o gerddoriaeth yw hon, er enghraifft, ond mae’n werth trial pethau newydd. Ocê, dyna digon. Nia Ben Aur – opera roc o’r seithdegau sgleiniog wedi ei hail-fywio ar gyfer Rhestr e-bost E-Gymraeg i drafod datblygu meddalwedd Gymraeg. Localizing Open Source Software – erthygl ddiddorol iawn am sut i sgwennu ffeiliau geirfa ar gyfer prosiectau ffynnon agored. Fel rhywun sy wedi ceisio trosi sawl ffeiliau o’r fath, dw i’n gwybod pa mor bwysig yw e i’r awdur gweiddiol esbonio beth mae’n golygu gan yr ymadroddiadau gweiddiol. I drosi’r gair “Yes” i’r Gymraeg, er enghraifft, mae’n hanfodol i wybod beth oedd y cwestiwn, a dydy hyn ddim yn amlwg bob tro wrth ddarllen y côd. [via asiapac] Rhaid siarad yr Wyddeleg i godi ty yn y Gaeltacht: Wel, wrth gwrs. Diolch Sid. tvtoons – wedi blogio hyn o’r balen, ond dw i’n credu bod y rhestr o toniau thema teledu wedi tyfu cryn dipyn erbyn hyn. Dy hoff ffefrynnau, a phethau mwy obscure ‘fyd, gan gynnwys sawl un o Ffrainc. Cymdeithas yn lansio maniffesto – bydd hyn ar gael ar lein cyn bo hir. Gwyliwch y lle ’ma. Neu’r lle ’na, am hynny. [English] thenyoudiscover.com – gwegofiadur gyda lluniau ardderchog (dw i eisiau camera digidol!) a MP3au i’w lawrlwytho. Mm, Johnny Cash. Yn ôl y sylwadau yma, roedd awdur y safle’n arfer bod yn ddarllenwr Morfablog, ond mae e wedi ymuno â’r rhengoedd o cyn-ddarllenwyr erbyn hyn. Tyrd yn ôl, tyd. Sy’n atgoffa i. Oedd ci o’r enw Tyrd gyda fy hen ffrind Berwyn. Enw gwych am gi. Mae’r Western Mail wedi cyhoeddi erthygl sy’n sôn am ddatblygiadau ym maes meddalwedd agored, gan gynnwys maes-e.com. Yn yr edefyn hiraf ar maes E oedd rhywun yn gofyn a oes MP3s gan Pep Le Pew ar gael. Fel cyd-digwyddiad, prynais i eu CD newydd yn Aber diwrnod o’r blaen, felly dyma un o’r traciau oddi wrtho: Tafod y Ddraig. Bydd y CD ar gael o wefan Pep Le Pew cyn bo hir, yn ôl y sôn. Diolch i Dyl Mei o’r grwp am roi caniatad i mi bostio hyn. Asia Pacific Information Systems (teitl snapi iawn, bois). Iaithgofiadur newydd, llawer o stwff am ieithoedd dwyrain Asia. Diolch i Pat, sy ddim yn boring o gwbl. Galw dy hunan yn ffan Tolkien? Ie, wir? Wyt ti wedi wneud dy lembas dy hunan? Nag wyt? Poser. Galadriel probably used some kind of grinder to refine the ingredients. I used a blender. L’ Uccello dalle piume di cristallo, (Dario Argento, 1970) – DVD arall o’r llyfrgell. Gwell na’r un welais i wythnos o’r blaen, er nad oedd y dillad yr un mor grwfi.Y Taith Hiraf Adref
The only reason Asda colleagues have come up with for the demand for white socks is the windy weather – which frequently blows washing from lines around the town.
I live in Grangetown, the river Taff passes close by on its last lurch to the sea, within sight is the new Rugby Millennium Stadium, ten minutes walk brings you to the site of the new Assembly building. Of my forty three years, half have been spent in Cardiff. In the shop on the corner, the young men converse in Urdu. The children who play in the street wear saris, the games they play are western ones. My wife was born in Cardiff, but her family is from Greece. Our children speak Welsh. I am, in John Cowper Powys’ words, an “obstinate Cymric” from the north, living as far south as you can possibly get in Wales, a minority amongst minorities, all of us constituent parts of today’s Wales.
Abergele was the scene of a failed assasination attempt of Prince Charles in 1969 as he travelled back from Caernarfon after being crowned. Two members of the Welsh Nationalist group Meibion Glyndwr were killed when their home-made bomb detonated accidentally. Until recently there was an annual ‘Martyr’s March’ through the town where fellow Meibion Glyndwr members commemorated the deaths. However, This has now been banned on account of interest by the National Front and Sinn Fein members wishing to join the procession.
MP3au, hwrê
Mae Nia Ben Aur yn ôl
y dimau diemwntaidd. Dw i’n lico’r golwg cawslyd retro ar y wefan – sieco mas y papurau wal grwfi – ond dw i ddim yn nabod y cerddoriaeth ei hun. Dyn nhw ddim am roi unrhyw flas o honno ar eu gwefan.E-Gymraeg
Lleoli Meddalwedd Agored
Cadw Iaith yn y Gaeltacht
“Wrth gwrs y dylech ganiat·u i’r brodorion siarad eu hiaith,” meddai Sid Worley a symudodd i’r Gaeltach 20 mlynedd yn Ùl o Notting Hill, Llundain.
P.L.A.Y., P.L.A.Y.
Maniffesto Newydd y Gymdeithas
Wedyn, ti’n darganfod…
Maes E yn y Western Mail
MP3 Pep Le Pew

Asiapac
Angen tipyn bach mwy o fêl, falle
Aderyn â’r plu crisial
