Dyn ni wedi clywed llawer am blant ysgol yn Sir Benfro yn cael eu “gofodi” siarad Cymraeg yn y coridorau – beth am Aelodau Senedd Ewrop yn cael ei heclo am beido siarad Cymraeg ’ phlant ysgol?:

Last night Eluned Morgan, herself a former pupil of the school, confirmed that the row had taken place and had degenerated into something of a slanging match.

She said, “The reason we were speaking in English was because we had a Spanish MEP with us who obviously cannot understand Welsh.

“We were talking about the bigger picture at a time when 20 million people are dying of hunger.

“My commitment to the Welsh language can’t be questioned – I spent three years chairing the European Parliament’s minority languages committee.”

Mewn gair sy’n boblogaidd gyda sawl aelod Plaid Lafur: bollocks.

‘Sai Morgan a Kinnock wedi ymweld ag ysgol yn Sbaen, fydden nhw wedi disgwyl y plant i siarad Saesneg ar eu cyfer nhw? Beth am ’sai’r ysgol yng Ngwlad y Basg?

A pose for strangers

Reservoirs, R.S.Thomas. Wedi cael syrffed o’r lluniau Llyn Efyrnwy, er mor hardd ydyn nhw.

There are places in Wales I don’t go:
Reservoirs that are the subconcious
Of a people, troubled far down
With gravestones, chapels, villages even;
The serenity of their expression
Revolts me, it is a pose
For strangers, a watercolour‘s appeal
To the mass, instead of the poem’s
Harsher conditions. There are the hills,
Too; gardens gone under the scum
Of the forests; and the smashed faces
Of the farms with the stone trickle
Of their tears down the hills’ side.

Where can I go, then, from the smell
Of decay, from the putrefying of a dead
Nation? I have walked the shore
For an hour and seen the English
Scavenging among the remains
Of our culture, covering the sand
Like the tide and, with the roughness
Of the tide, elbowing our language
Into the grave that we have dug for it.

Posted in Heb gategori | Tagged

Llythyrau o’r Rhyfel Cartref America. Dros 80 o lythyrau, yn y Gymraeg, gan Corporal John Griffith Jones (1843-1864) o’r 23rd Regiment, Wisconsin Volunteers. Un peth sy’n taro yn syth yw faint o Gymry (Cymry Cymraeg o hyd, siwr o fod) oedd yn ymladd yn y Rhyfel erchyll honno:

31 Awst 1862

..rwyf wedi bod yn siarad hefo 18 o gymry diarth…

17 Medi 1862

…wedi gwelad 5 o gymry yma…

Posted in Heb gategori | Tagged

Gwallgorwydd yr Arglwyddes Elizabeth Dayrell.

On 19 November [1677], Lady Dayrell burst into the house of Mr Hopegood, a merchant in Lothbury, and there challenged her husband’s brother, Mr John Morgan, to meet with her in Southampton Fieldsy, 3 o’clock the next day, to fight with her there.

But about 6 o’clock in the morning she and two servants came to the house in her carriage with naked swords, and after much knocking, the servant rose and opened the gate. She and her servants entered the house with their naked swords in their hands and demanded whether Mr John Morgan was in the house, and being answered that he was in bed, she replied that she had him sure, and would kill him.

Posted in Heb gategori | Tagged

Llythyrau at Gresffordd. Casgliad o lythyrau a ddaeth o bob cwr Cymru a Phrydain Fawr ar ôl y trychineb yng Ngresffordd, 22 Medi 1934. Dyma rywbeth sy’n rhan o hanes fy nheulu i – roedd fy hen daid, Robert Henry Williams, un o’r glowyr o’r ardal cyfagos a aeth i Gresffordd i geisio achub bywydau’r glowyr a’u claddwyd yno.

Posted in Heb gategori | Tagged

Rhagor o dlysau

Cofnodion i fi yw’r rhain, ond falle bydd diddordeb ’da pobl eraill ynddyn nhw.

Arian Wrecsam.

Billy Meredith – “The Welsh Wizard”. Oedd e’n gweithio gyda fy hen hen daid ym mhwll glo Black Park, mae’n debyg:

The son of a mining family, Meredith began working at the Black Park Colliery as a pony driver and ‘hutcher’ when he was twelve years of age. By the 1890s his footballing skills had become apparent and he joined the ranks of Chirk’s successful first-team, winning his first Welsh Cup medal in 1894. Following a brief period as a semi-professional at Wrexham, and as a professional with Northwich Victoria in the English 2nd Division, Meredith joined Manchester City in late 1894. However, he continued working underground during the week until 1896, when his club finally insisted that he give up his colliery job.

Lluniau o Ryfel y Degwm.

Llyfr patrymau gweheydd o Holt, 1775-82.

Erthygl am “Lake Vyrnwy”, London Illustrated News, 23 Chwefror 1889. Gyda lluniau wedi’u chwythu, fel yr un o neuadd Eunant, a’i boddwyd gan y gronfa ddwr.

Posted in Heb gategori | Tagged

Pen pan las, oedd lesach peidiaw

Cilmeri

Fin nos, fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiaf hyn.

Y nant a welaf fan hyn
A welodd Llywelyn.
Camodd ar y cerrig hyn.

Fin nos, fan hyn
O’r golwg nesai’r gelyn.
Fe wnaed y cyfan fan hyn.

Rwyf fi nawr fan hyn
Lle bu ei wallt ar welltyn,
A dafnau o’i waed fan hyn.

Fan hyn yw ein cof ni,
Fan hyn sydd anadl inni,
Fan hyn fu’n geni.

Gerallt Lloyd Owen

Dan fron o fraw

Marwnad Llywelyn ap Gruffudd

Poni welwch chwi hynt y gwynt a’r glaw?
Poni welwch chwi’r deri’n ymdaraw?
Poni welwch chwi’r môr yn merwinaw’r tir?
Poni welwch chwi’r gwir yn ymgweiriaw?
Poni welwch chwi’r haul yn hwyliaw’r awyr?
Poni welwch chwi’r sy^r wedi ‘r syrthiaw?
Poni chredwch chwi i Dduw, ddyniadon ynfyd?
Poni welwch chwi’r byd wedi’r bydiaw?
Och hyd atat ti Dduw na ddaw – môr dros dir!
Na beth y’n geidr i ohiriaw?