Ar ôl sbel bant maeModern Living yn ôl. Ffiliau bach Flash, sy’n ddoniol a thrist yr un pryd.
Monthly Archives: Hydref 2002
Diwrnod Digidol – NOT
Post ar No Rock&Roll Fun am y debacle a oedd Diwrnod Lawrlwthio Digidol.
Oh, and Mac-heads amongst us will love this bit: ” So to give you the widest choice of music possible we would recommend that you upgrade your operating system to one which will support more modern DRMs (i.e. to Windows 98, 2000, ME or XP) – yes, they’re suggesting you should ‘upgrade’ from Mac OS X to Windows 98. Okay, I’ll do that just as soon as I’ve replaced my Widescreen telly with a Black and White one, and smashed my face up with a giant hammer to allow me to look like a more standard person.What a pile of rubbish. What a total shambles. What a fantastic metaphor for the UK music industry.
Clywais i gyntaf am y peth ’ma oddi wrth Maff ac oedd e wedi darllen amdano ar wefan MacUser.
MacUser.
Tch.
Cymdeithas DJ arall
David Jones Society – cymdeithas o bobl sy’n mwynhau gwaith y bardd/arlunydd. Pam yn y byd do’n i ddim yn gwybod am hyn o’r blaen?

David Jones, 1895-1974
Cerddi Newydd Dai Greatcoat
David Jones, Wedding Poems. Dwi gerdd “newydd” gan David Jones, sgwennwyd ganddo ar achlysur priodas dau o’i gyfeillion ar ôl yr Ail Ryfel a cholliedig tan yr 80au pan y’u darganfuwyd mewn cist o lytherau T.S.Eliot a Harmon Grisewood.
Margaret (gentle as falcon, or
hawk of the tower) with
Harman, my sweet friend
spread in a vault their bed of unity, to mock
the unmaking.
[via Golwg, ond dyw'r stori hon ddim ar lein]
Anadl Inni
Cyflwyniad gan y Public Record Office yn Llundain at y perthynas rhwng Cymru a Lloegr. Llawer o lluniau o lawysgrifiau sydd mewn llyfrgelloedd Lloegr, fel yr un isod, sy’n dangos marwolaeth Ein Llyw Olaf.

Carlo a’r eogiaid
Gyda’r holl ffws yn y newyddion am Carlo ymyrryd â pholisiau’r llywodraeth fyddai rhywun yn meddwl oedd hyn y peth newydd. Mae e wedi bod ati ers 1969.
—-
Ypdêt: ar yr un pwnc, do’n i ddim yn gwybod o’r blaen oedd Carlo wedi cael ei gyhuddio o fod yn genedlaetholwr Cymreig. Gan George Thomas, natch.
Môr-ladron y wwwê, slight return
Wythnos diwetha, sgwennais i bwt bach am y stori hon oedd ar dudalen ffrynt y Tivy-Side, gan awgrymu y dylen nhw sieco eu ffeithiau yn fwy manwl.
Pot. Kettle. Black.
Nes i ddweud nad oes archif gan y Tivy-Side: beth yw hwn, ‘te?
Twpsin ydw i, nid fel staff y Tivy-Side, sy’n weithgar, talentog a golygus bob un.
Gyda’r llaw, mae cardigan.gov.uk yn dal i bwyntio at wefan y môr-ladron ac mae layout y tudalen honno wedi newid ers wythnos diwetha.