Sdim byd yn digwydd ’ma, sori. Dw i wedi bod bant dros y penwythnos i Flaenau ffestiniog: es i i’r sioe Taith y Saith Sant ac wedyn i Rali Gwaith Cymuned. Mae yn cymryd mwy o’m hamser, ac dw i’n mwynhau cael sgwrsio yna – beth wyt ti meddwl, dwyt ti ddim wedi ymuno ‘to. Cywilydd arnat!
Hefyd, dw i wedi bod yn fishi iawn gyda dosbarthiadau. Mae mwy o bobl nag erioed yn y dosbarthiadau newydd eleni, sy’n newyddion ardderchog.
Dw i jyst ddim yn cael siawns i eistedd lawr a syrffio’r we am y daioni dolennog dych chi wedi dod i’w ddisgwyl, mae arna i ofn.
Hanner tymor wythnos nesa, ac er bod llawer o waith darllen ’da fi i wneud ar gyfer y radd allanol, mae’n siwr bydd amser i wneud bach o flogio hefyd.
—–
Ypdêt: dw i ddim yn mwynhau Maes E cweit cymaint ag o’n i y prynhawn ’ma, diolch i un neu ddau proto-trolls sy wedi mynd ar goll ar eu ffordd i Usenet. O wel.