Yn Santiago yn ’73

Diwrnod Glyndwr yw e heddi, wrth gwrs, ond mae’n ddiwrnod pwysig yn Chile hefyd: 29 mlynedd ers bu farw Victor Jara.

Mae c’n Victor Jara i’w chlywed o hyd
Yn atsain yn uchel drwy wledydd y byd.
Fe erys y Ffasgwyr, erys y trais
Ond gwrando mae’r bobl am alwad ei lais,
Yn Santiago ein dyddiau ni.
Dafydd Iwan

[diolch i wood s lot]

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Faint o robotiaid?

Llawer ohonyn nhw. Ffilm fach (wel, 50Mb, rhaid bod yn amyneddgar oni bai bod cable ’da ti) wedi’i animeiddio. Dim ond y trydedd rhan dw i wedi lawrlwytho (tra mod i mas mewn cyfarfod ac wedyn yn y Pentre Arms) ond mae hon yn edrych yn arbennig. Caf i’r gweddill dros nos.

Dych chi’n siarad BIMLeg?

Ieithoedd Brodorol Prydain ac Iwerddon – astudiaeth newydd o Brifysgol Caerhir. Llawer o ddolenau diddororl ar y tudalen yr adroddiad cyntaf. Do’n i ddim yn gwybod, er enghraifft, bod prosiect ar y gweill i gyfieithu Open Office (dw i’n aros am y fersiwn OSX) nes i mi weld gwefan Meddal (rhybudd: llawer o pop-ups – rhaid i mi ail lwytho Mozilla, grrr).

[diolch i Chris Castle am y dolen]

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Bad Manners

Llun newydd o weithdy Iona a Carys. Diolch yn fawr iddyn nhw am hyn. Dw i’n cymryd fod y llun yn astudiaeth o fywyd (life study).

Hanes Gemau Chwarae Rôl

Un o’r rhesymau dw i wedi bod yn dawel yn diweddar yw mod i wedi bod yn chwarae Nethack. Dw i bron wedi bennu fy ngêm cyntaf, dweud y gwir. A chyn i ti ddweud, ie, dw i’n gwybod pa mor bathetig yw hynny. Dros y penwythnos oedd cwpl o ffrindiau’n aros gydani, ac wnaethon ni drafod cael gêm D&D y tro nesa maen nhw’n dod ’ma.

Paid chwerthin.

Eniwei, i’r rhai sy ddim mor ragfarnllyd dyma hanes byr gemau chwarae rôl a hanes cynnar D&D. Daeth y ddau ddolen o weflog Torill Mortensen, athro, gemwr a gwyliwr morfilod o Norwy.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd