Dw i’n cael toriad bach o’r we. Llawer o waith darllen i’w wneud heddiw (Aneurin, ar hyn o bryd), a Steddfod fore a dydd Mawrth. Nôl dydd Mercher, felly. Fallai.
Monthly Archives: Awst 2002
Gweflogion Newydd
Gweflogion. Gweflogiau? Ah, be’di ots, dim ond Americanwyr sy’n edrych ar hyn ers i mi ennill y hysbysebion ar Blogger.
Dw i’n gwylio dolffiniaid y bore, ond cyn i mi fynd dyma cwpl o weflogion o’r rhestr referrals.
SixDifferentWays: Gweflog ddolennog iawn o Dallas, Texas.
Entropy Tango: Un gan Gymro yn America (Pontypridd/Los Angeles)
O, ac mae’n debyg bod Negesfwrdd y Cymry “Cwl” yn palu ei bedd ei hunan. Dyma’r sgwrs ces i ddoe:
Fi: Ar gyfer y record, er mod i’n anghytuno’n llwyr gyda’r pethau mae Di-Angen yn eu dweud, bydda i’n amddifyn ei hawl i’w dweud i’r eithaf. Does dim diddordeb ’da fi mewn Cymru Rydd sydd heb ryddid barn, hyd yn oed barnau annymunol. (Dw i ddim yn gweld lot o bwynt dadlau gyda fe, chwaith. Mae ei holl ddadl yn seiliedig ar gynseil sigledig iawn, sef cyfartelwch gwleidyddol Cymru a Lloegr.)Os ydyn am adeiladu cymdeithas sifil yng Nghymru, mae rhaid i ni ddysgu sut i ymdrin ’n gilydd yn sifil, hyd yn oed os ydyn ni’n anghytuno.
Arwr y Dosbarth Gweithiol: Ia, ia, ia ….. boring, boring, boring. Y dosbarth canol yn bcio eu gilidd i fyny i’r hilt. Lib-left shite. Hawl i ddeud ei farn my arse – be am Hitlar, oedd gan hwnnw hawl i’w farn? Dos i ddarllen y Guardian yn rwla…
Dw i’n gwybod mod i’n swnio yn pretentious weithiau (ocê, yn aml), ond does geni llawer o ddewis. Dysgwr ydw i a Chymraeg y geiriadur yw fy nhafodiaeth. Beth ddylwn i wneud, esgus mod i’n Gymro go iawn (gyda emosiynau go iawn) gan ddefnyddio mwy o Saesneg? Sori, dw i ddim yn gallu handlo’r eironi.
Beth bynnag, un peth da a ddaeth o’r twpdra hwnnw oedd ffeindiais i sgript a ffeilaiu sain o Argument Sketch Monty Python.
M: Yes, but I came here for an argument!!A: OH! Oh! I’m sorry! This is abuse!
M: Oh! Oh I see!
A: Aha! No, you want room 12A, next door.
