Dau aderyn “Mewn Dau Gae”

Papur gan Damien Walford Davies am ei brofiadau recordio R.S. darllen ei waith ar gyfer y set 3 CD a gyheoddwyd flwyddyn neu ddau cyn iddo fe (RST) farw.

Ffeindiais i hyn achos fy mod i’n darllen, am y tro cyntaf, barddonaieth Waldo Williams, a threiliais i oriau yng nghwmni “Mewn Dau Gae” ddoe.

After his powerful reading of “A Thicket in Lleyn,” I asked whether in the closing lines he had meant consciously to echo the great twentieth-century Welsh poet Waldo Williams’s masterpiece on the imagination and its relation to the world, “Mewn Dau Gae,” “In Two Fields,” a poem Thomas has in fact translated : “Yr oedd rhyw ffynhonnau’n torri tua’r nefoedd/ Ac yn syrthio’n l a’u dagrau fel dail pren” (Fountains burst up towards heaven/ Falling back with tears like leaves of a tree). Thomas’s poem ends thus:
Your migrations will never
be over. Between two truths
there is only the mind to fly with.
Navigate by such stars as are not
leaves falling from life’s
deciduous tree, but spray from the fountain
of the imagination, endlessly
replenishing itself out of its own waters.

Was he thinking of Waldo Williams’s lines, then, in “A Thicket in Lleyn”? “No,” he smilingly replied, “I was thinking of a thicket in Lleyn.” Chastened, I remember musing at the time that poets should respond more often with that kind of corrective bathos to over-zealous critics grubbing around for literary allusions.

Un o’r pethau sy’n yn fy moddran i gyda cherdd Waldo yw’r ymadrodd chwibanwyr gloywbib yn y pennill cyntaf. Ai gylfinirod yw’r rhain fel yr awgrymir yng Ngeiriadur y Prifysgol, neu jyst whistlers (h.y. adar heb eu henwi) fel y dwedir gan Thomas a Tony Conran yn eu cyfieithiadau? Am ryw reswm, dw i am glywed llais y gylfinir yn cyfeilo i callwib y cornicyllod.

[caneuon yr adar via findsounds]

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Afonydd Coll

Pan o’n i’n byw yng Nghaerdydd, a darllen llawer gan Gary Snyder fyddwn i’n mynd am dro gan ddilyn y nentydd sy’n rhedeg dan strydoedd y ddinas. Roedd hyn yn eitha hawdd yng Nghaerdydd, sy’n ddinas ifanc. Stori wahanol yn Llundain, lle mae dyddodion dynol yn ddyfnach o lawer.

[via plep]

Heddi yw ei phenblwydd, maen nhw’n smygu sigars…

Gwrando ar MP3au oddi ar Vespertine, record diwetha Bjrk.

Dw i wedi colli cyswllt â Bjrk yn diweddar. Prynais i Selmasongs ar ôl weld y ffilm Dancer in the Dark, ac mae Debut ’da fi ar dâp rhywle, ond i mi, cantores Y Sugarcubes yw Bjrk o hyd, sy’n camu trwy fy mreuddwydion canu yn Islandeg am gigfrain a chacen mefus.

Ha! Roedd y llun hwn ar fy wal yn fy stafell gyntaf ym Mhontypridd, pan o’n i yn y coleg. Daeth e mas yn fy mis bant cyntaf, Hydref 1987.

Ysgol Gymraeg Llundain

Pwy dylai dalu am Ysgol Gymraeg Llundain, y Cynulliad neu Adran Addysg Lloegr?

But the assembly’s view is that the school is in England and should therefore be funded by the Department for Education. The school is keen on that, too, and has been looking at acquiring voluntary aided status.

Which would be fine except the Department for Education isn’t prepared to fund schools which don’t use follow the national curriculum in English.

Chwarae teg. Felly, dylai Llywodraeth Lloegr gyllid bob ysgol yn y Fro Gymraeg sy’n dysgu trwy gyfrwng y Saesneg. Na ddylai? Beth yw’r gwahaniaeth?

Mor wyn â…

WhiteonWhite: seren wen ar gefndir gwyn? Pshaw! Cynllun newydd rhyw weflog? Paham mor fishi, Mr Dafis? Dyma’r celfyddydau’r anweledig, swn distaw John Cage mewn olew.


White Painting, Robert Rauschenberg, 1951

[via cioran]

Beth yw “Eisteddfod” yn Almaeneg?

Almaenwr mewn Steddfod:

As a German in the middle of west Wales, I found that it was indeed possible to break into this community and become a part of it.

In fact, people will take the time to talk about everything you like, and for as long as you like.

Eisteddfod-goers in general reacted positively and some even apologised for speaking Welsh.A strange concept, when you consider that a German would not apologise for speaking German to a non-German speaker.

Neither should a Welsh-speaker.

Artist Tirlun y Croeshawliad

Un o’r pleserau annisgwyl y Steddfod oedd arddangosfa bach o waith Graham Sutherland. Drueni mawr nid yw’r Oriel yng Nghastell Picton ddim yn dangos casgliad Sutherland yr Amgueddfa Genedlaethol bellach.

Ar y dechrau , ymwelodd niferoedd lawer r Oriel ond wrth ir incwm ostwng, daeth Sefydliad Graham a Kathleen Sutherland i ben ym mis Hydref 1989. Trosglwyddwyd y casgliadau, yr archif ar llyfrgell i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a fun rhedeg yr Oriel tan fis Hydref 1995, pan gaeodd Oriel Graham Sutherland oherwydd i nifer yr ymwelwyr fynd yn llai ac yn llai.

Graham Sutherland, Articulated Form, 1951

Mwy o enghreifftiau o waith Sutherland: 1 | 2 | 3 | 4 | 5

Paid â chysylltu â ni!

Stupid Linking Policies: gweflog newydd sy’n ffeindio gwefannau masnachol sy’n mynnu bod rhaid i ti ofyn am ganiatâd cyn dolennu iddyn nhw. Pobl fel Huntingdon “Life” Sciences. Paid â sgwennu dolen iddyn nhw, beth bynnag wyt ti’n ei wneud. Fydden nhw ddim yn hapus o gwbl. Dim ond pobl sy’n credu bod bywddyraniad yn beth da yn cael rhoi linc i Huntingdon “Life” Sciences ar eu gwefannau.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Paid Siarad Albaneg yn yr Alban

Os wyt ti yn yr ysgol. Mae agwedd hyn yn ddiddorol:

But linguistics expert Professor Charles Jones insisted youngsters should master standard English first.

He said: “There is no point trying to teach Scots children to speak like Prince Charles – they would not survive five minutes on the streets.

“But first-and-foremost, before they are encouraged to write creatively in Scots, they should learn to read and write in Standard English.”

Pam fyddai awdur y llyfr A Language Suppressed: the Pronunciation of Scots in the Eighteenth Century yn dadlau felly? Onid yw e’n agwedd braidd yn hen ffasiynol i ddal bod ’na wahaniaeth safonol rhwng Albaneg ‘frodorol’ a Saesneg ‘go iawn’.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Mozilla yn y Gymraeg

Mae pecyn iaith Gymraeg ar gael ar gyfer Mozilla 1, yr unig porydd gwe mae’r pobl cwl yn ei ddefnyddio. Dyma llun sgrin, sy’n dangos eich hoff weflog Gymraeg mewn ffram ffenest Gymraeg.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd