1. Hen newyddion.. o’r Sunday People, Mehefin 2001

    Dwi ddim yn gwybod pam fod pobl yn trafferthu, mae’r ‘Doctor’ yn cymeryd y piss efo nifer o’i atebion.

    er enghraifft

  2. Ydyn nhw wedi ailgyhoeddu fe ‘te, neu ydy Gwilym ab Ioan yn anghwir gyda’r dyddiad 11 Awst 2002? Mae testun yn tipyn bach yn wahanol, jyst ar y diwedd:

    2001 …to prepare children for the real world rather than to indulge their own petty fancies.

    2002 (?) …to prepare children for the real world rather than to indulge a few whimsical nationalists?

    Dw i’n cytuno bod pethau mwy pwysig yn y byd i boeni amdanyn nhw. Ar hyn o bryd, dw i’n poeni am lenwi dosbarthiadau Cymraeg, er enghraifft ;-)

  3. Fasen i’n meddwl bod is-olygydd y People wedi newid y testun er mwyn gwneud e’n fwy bachog (a gwleidyddol).

    Mae’n bosib fod y papur yn ail-gylchu llawer o’r cwestiynau ond mae’r sgan o’r papur wedi bod yn cael ei basio rownd drwy ebost yn ystod Awst – enghraifft prin o meme Cymraeg falle…