Lluniau wyneb i wared

Pan o’n i’n ifanc oedd gan fy hen-daid a hen mam-gu blât yn eu ty gyda llun o gwpl cariadus cyn eu priodas. Wrth troi’r plât, wnaeth y llun newid i un o’r un cwpl ar ôl iddyn nhw briodi. Am rhyw reswm wnes i feddwl am y plât diwrnod o’r blaen, a meddwl beth digwyddodd iddo. A dyma wefan gyda oriel o luniau dwyochrog gan gynnwys yr un oedd yn nhy Bob ac Annie. Bendigedig.

[via metafilter]

Madogwys, schmadogwys

Gofynna ein hoff fôr-forwyn yr hen, hen gwestiwn: ai gan y Cymry a ddarganfuwyd America? Yn ôl yr erthygl hon, ie, heb os nac onibai.

Many of the grave mounds found in the American mid West, including those at Bat Creek, Tennessee, are ancient British in origin and design, Wilson said. Jim Michael added, “the stone tablet found at Bat Creek in 1889 included an inscription written in Coelbren, an ancient British alphabet known and recorded by historians and bards down the ages.”

Wel, yr oesoedd ers Iolo Morgannwg, eniwei.

Fel mae’n digwydd, nid yw hwn y tro cyntaf i garreg Bat Creek cael i ddefnyddio gan “haneswyr”. Mae ganddo rôl arbennig yn hanes y Mormaniaid. Ond, yn ôl bob debyg, ffugwaith yw’r carreg a gobeithion ofer yw straeon Jim Michael.

Diwrnod yng nghwmni Kate

Y bore ’ma, fe benderfynais i na fyddwn i wastraffu diwrnod arall eistedd o flaen sgrin fy mhenliniadur. A dyma fi, wedi darllen Traed Mewn Cyffion am y tro cyntaf yn fy mywyd (35 blwydd oed), ac mae’n bosib taw heddi yw diwrnod cyntaf y haf ’ma lle dw i ddim yn teimlo mod i wedi wastraffu yr un awr.

Nodyn bach o Muiris ynglyn â’r term Cymraeg am “weblog”. Gweddiadur yw ei awgrymiad e, sy’n lot symlach na’r gwegofiadur o’n i wedi bod yn defnyddio. Oes barn gan unrhywun arall yng Ngwlad y Gweddiaduron?

Angie Teiger

Aethon ni i gael cip ar waith Angie Teiger, sy’n byw yma yn Llangrannog. Mae’n hi’n wneud gwaith mewn acrylics, dyfrliw a amlgyfrwng, gyda dull unigryw. Mewn un neu ddau ddarn roedd adlais o ardull Celtaidd, ond dyw hi ddim yn llawdrwm o gwbl (sdim rwtsh o niwl y Celtiaid yma).

Rali Glyndwr 2002 a Maes E

Mae Hedd Gwynfor wedi postio manylion Rali Glyndwr Cymdeithas yr Iaith ar y negesfwrdd newydd.

Bydda i’n trial mynd i’r un yn Aberaeron o leia (dw i’n credu bydda i yng Nghaerdyd ar yr 21ain, felly dydy hynny ddim yn debyg).

SÙn am y negesfwrdd newydd, mae pethau yn shapo lan yn eitha da. Mae gennym rhyw 10 nage, 11 o aelodau (helo meurig) a nid jyst fi sy’n postio pynciau newydd, sy’n arwydd da.

Mewn Dau Gae

Wedi sylweddoli bod sawl cangymeriad yn nhestun “Mewn Dau Gae” ar wefan y Crynwyr, isod. Dyma’r testun wedi’i gywiro.

Mewn dau gae

O ba le’r ymroliai’r mÙr goleuni
Oedd a’i waelod ar Weun Parc y Blawd a Parc y Blawd?
Ar Ùl imi holi’n hir yn y tir tywyll,
O b’le deuai, yr un a fu erioed?
Neu pwy, pwy oedd y saethwr, yr eglurwr sydyn?
Bywiol heliwr y maes oedd rholiwr y mÙr.
Oddifry uwch y chwibanwyr gloywbib, uwch callwib y cornicyllod,
Dygai i mi y llonyddwch mawr.

Rhoddai i mi’r cyffro lle nad oedd
Ond cyffro meddwl yr haul yn mydru’r tes,
Yr eithin aeddfed ar y cloddiau’n clecian,
Y brwyn lu yn breuddwydio’r wybren las.
Pwy sydd yn galw pan fo’r dychymyg yn dihuno?
Cyfod, cerdd, dawnsia, wele’r bydysawd.
Pwy sydd yn ymguddio ynghanol y geiriau?
Yr oedd hyn ar Weun Parc y Blawd a Parc y Blawd.

A phan fyddai’r cymylau mawr ffoadur a phererin
Yn goch gan heulwen hwyrol tymestl Tachwedd
Lawr yn yr ynn a’r masarn a rannai’r meysydd
Yr oedd cân y gwynt a dyfnder fel dyfnder distawrwydd.
Pwy sydd, ynghanol y rhwysg a’r rhemp?
Pwy sydd yn sefyll ac yn cynnwys?
Tyst pob tyst, cof pob cof, hoedl pob hoedl,
Tawel ostegwr helbul hunan.

Nes dyfod o’r hollfyd weithiau i’r tawelwch
Ac ar y ddau barc fe gerddai ei bobl,
A thrwyddynt, rhyngddynt, amdanynt ymdaenai
Awen yn codi o’r cudd, yn cydio’r cwbl,
Fel gyda ni’r ychydig pan fyddai’r cyrch picwerchi
Neu’r tynnu to deir draw at y weun drom.
Mor agos at ei gilydd y deuem—
Yr oedd yr heliwr distaw yn bwrw ei rwyd amdanom.

O, trwy oesoedd y gwaed ar y gwellt a thrwy’r goleuni y galar
Pa chwiban nas clywai ond mynwes? O, pwy oedd?
Twyllwr pob traha, rhedwr pob trywydd,
Hai! y dihangwr o’r byddinoedd
Yn chwiban adnabod, adnabod nes bod adnabod.
Mawr oedd cydnaid calonnau wedi eu rhew rhyn.
Yr oedd rhyw ffynhonnau’n torri tua’r nefoedd
Ac yn syrthio’n ôl a’u dagrau fel dail pren.

Am hyn y myfyria’r dydd dan yr haul a’r cwmwl
A’r nos trwy’r celloedd i’w mawrfrig ymennydd.
Mor llonydd ydynt a hithau a’i hanadl
Dros Weun Parc y Blawd a Parc y Blawd heb ludd,
A’u gafael ar y gwrthrych, y perci llawn pobl.
Diau y daw’r dirh·u, a pha awr yw hi
Y daw’r herwr, daw’r heliwr daw’r hawliwr i’r bwlch,
Daw’r Brenin Alltud a’r brwyn yn hollti.

Posted in Heb gategori | Tagged