Hanes Cooper Black – ffilm fach Flash sy’n dweud stori wyneb teip diymhongar sy’n ddigon lwcus i gael ei ddefnyddio ar glawr un o’r recordiau mwya’r 60au.
Monthly Archives: Gorffennaf 2002
Doo doo do do doo
Mahna Mahna: Hanes Clwedol. Un peth dwyt ti ddim moyn amser hyn o’r nos yw’r cân mwya cythruddol yn y byd mynd rownd a rownd yn dy ben.
A rownd a rownd a rownd…
La Piano Graphique
Mae hyn yn hwyl: le piano graphique.
Yn y fersiwn “rude boy”, mae botwm “U” yn swnio fel bachgen o Sir Benfro. “Wês, wês…”
Calling Sydney… are we reaching?
Are you there, Barbara?
[click here if you are.]
Terreus
Dyma weflog bert o restr y Guardian. Un dydd, bydd Morfablog mor â bert â honna.
Hanes y Seintiau
Thema Dave Cennin a Rosys ar gyfer y Blogathon yw hanesion seintiau Catholig. Dyma fe ar Sant Illtyd.
Nid fi yw unig weflogwr
yng Nghymru yn y Blogathon. Mae Siân yn gweflogio dros Apêl Arch Noah.
Dw i’n syrffio’r cylch, edrych am ddolennau diddorol i’w dwyn.
Mwy o MP3
O’r un safle, dyma rhestr o MP3au sy wedi bod ar sioe John peel. Cannoedd ohonyn.
Edrych, mae ’na un gan M.C.Mabon.
Cofiannau Isofod
Daeth y ddau ddolen diwettha o Wisdom Goof, un arall i ychwanegu at y rhestr Blogrolling.
How the Six Million Dollar Man Got That Way
…a chanmil o bethau eraill, mewn cronfa anferth o MP3iau rhyfedd, doniol, di-chwaeth. Tipyn bach yn Farkaidd ond…
Thank Your Lucky Stars
Dwyt ti ddim The Bastard Son of Dean Friedman. Trac indie’r wythnos ar Indie MP3.
A dyma gwefan Half Man Half Biscuit. Gwelais i nhw yng Ngholeg Cartrefle, Wrecsam, nôl yn y 90au gynnar.
Interesting Search Results
Some people have too much time on their hands.
Amser Gwely
…ond nid i fi.
Mae ‘r Blogathon wedi’i crybwyll ar Metafilter eto. Tebyg bod pawb yn rhy brysur, neu yn rhy ddi-ddiddordeb i agor trafodaeth. Neu jyst yn ceisio osgoi ail-ddechrau’r ffrae o’r tro diwetha.
Y Tair Awen
Mae’r lluniau ’ma gan Francis Bacon ymysg y lluniau mwya enwog y ganrif diwetha, ac yn rhan o bob breuddwyd drwg dw i wedi cael ers 1986.
Y Pysgod Aur
Fi, Antwn a’n Demoniaid
Dw i’n bod yn gryf. Ydw i.

Temtasiwn Sant Antwn gan Grunewald
Y Duw sy’n gwybod
Artchive
Ar weflog drws nesa yng nghylch y Blogathon, ffeindiais i hyn: The Artchive. Dw i’n jyst dechrau archwilio’r safle. Gawn ni weld…
Pethau yn dechrau cyflymu
Fel arfer, wrth roi pethau ar y weflog, dw i’n gallu cymryd fy amser, meddwl am beth dw i am ddweud, edrych am eiriau yn y geiriadur, tseico pethau yn fanwl, ffeindio mwy nag un dolen, ateb fy e-bost yn ofalus.
Nid heddi.
Rhaid i mi fynd am dro bach, dw i’n meddwl.
Ceri Richards yng Nghaerdydd
Adroddiad y BBC ar arddangosfa Ceri Richards sydd yn yr Amgueddfa Genedlaethol ar hyn o bryd. Oni bai mod i’n wneud y ‘Thon, fyddwn i wedi mynd i Gaerdydd gyda Phil heddiw. Bydd rhaid i mi aros tan mis nesa nawr.


