A dyma ni

24 awr o weflogio, 72 o gofnodion, 17 o noddwyr, $182 i CYD, $100 Pyrads i mi (neu bwy bynnag sy’n gallu eu defnyddio).

Dw i wedi mwynhau’r profiad. Roedd hi’n wych cael cerdded rownd y cae yng nghanol nos, ac yn oriau man y bore, ac yn fendigedig cael siarad â Barbara a ffrindiau eraill.

Gaf i ddweud diolch yn fawr iawn i bawb sy wedi fy noddi, ac i’r criw yn America a drefnodd y holl beth, yn enwedig FrykittyCWTSH mawr iddi hi.

Yn ôla, hoffwn i ddiolch i’r criw Maesymorfa, i Helen am wneud cawl mor ffantastic, i Iona a Carys am eu holl waith paentio a sgwennu storïau a chywiro fy Nhymraeg warthus, ac i Philippa, jyst am bopeth.

There we are, folks, our first Blogathon. Thanks to everyone who sponsered me, who chatted with me, and who put up with me. See you again next year.

Remember: Siaradwch Cymraeg, ol ddy wei!

Comments are closed.