Sgytiad Cylch yn y Siamber

(Does dim gair yng ngeiriadur Bruce am circle jerk felly dw i wedi bathu un newydd. Tasg fudr yw hi, ond…)

Tair wythnos yn ôl bu ddadl yn San Steffan am Racism (Welsh Politics). Pan darllenais i’r transgript yn Barn y bore ’ma, trawais i’r bwrdd mor drwm ro’n i’n poeni mod i wedi torri asgwrn yn fy arddwrn. Byddai hynny wedi rhoi terfyn ar fy mreuddwydion am yrfa ym myd gwleidyddiaeth, lle mae hyblygrwydd yr arddwrn llawer mwy pwysig na hyblygrwydd y dychymyg.

Un ymadrodd yn y transgript oedd yn fy nharo oedd gan Llew Smith, sy’n cyfeirio mwy nag unwaith at “nationalists and their fellow travellers”. Yn ôl yr eirfa darddiadau hon:

First record of fellow-traveller “one who sympathizes with the Communist movement but is not a party member,” is from 1936, translating Rus. poputchik

Mewn geiriau cyd-deithiwr arall:

O fochyn i ddyn, ac o ddyn i fochyn…

Llew Smith Aelod Senedd Lloegr   Y Seneddwr Joseph McCarthy