Detholiad hir o’r cyfieithiad Saesneg Y Pla gan Wiliam Owen Roberts. Dyna’r llyfr a wnaeth i mi benderfynu beidio sefyll arholiad lefel A, Cymraeg i oedolion, a dw i dal heb ei ddarllen – yn Gymraeg. Darllenais i’r fersiwn Saesneg yn y diwedd jyst i wneud yn siwr taw fy niffyg Cymraeg oedd y problem a do’n i ddim yn trïal darllen rhyw Finnegans Wake Cymraeg. Dw i’n eitha sicr taw arna i oedd y bai.
Beth bynnag, dw i’n darllen ei nofel newydd nawr, Paradwys (methu canfod dolen diddorol – un o’n nofelwyr mwya a bron dim byd amdano ar y we…) ac mae hi’n wych. Dw i’n mynd ati i lenwi llyfr bach nodiadau gyda geirfa newydd ond y rhan fwya o’r amser dw i’n eista ’na cegagored, ddim yn gallu coelio be’ dw i’n ei ddarllen. Mewn cymhariaeth â’r stwff astudiais i yn y coleg eleni – wel, does dim cymhariaeth.
Amser i mi ail-ddechrau’r Pla, falle?