Nawr bod Talwrn a recordiwyd nos Fawrth wedi’i ddarlledu, dyma un o gerddi y tîm llwyddianus, Y Taeogion. Cywydd gan Ceri Wyn Jones ydyw, gobeithio gyda llai o gamgymeriadau sydd ar wefan y BBC. I’r rhai di-ddiwylliedig, fel fi, sy’n colli’r cyfeiriadau, dyma marwnad i Lywelyn ap Gruffudd gan Gruffudd ab yr Ynad Goch.
Cawod( Yn ddiweddar, gwelwyd Jac-yr-Undeb yn cyhwfan yn braf tu fas y Prince Llywelyn Inn, Cilmeri)
Rhag y gawod cysgodaf
fan hyn dros ryw beint fin haf;
man lle na bo syrthio sêr
na hynt y gwynt dros gownter;
bar uniaith, lle i’r Brenin,
a, gorau oll, bar â sgrin.
Man yw hon lle rym mewn haid
yn cusanu’r Sacsoniaid.Gem Lloegr yw’r Cilmeri
cawod haf a welaf i,
ac ar ôl ei gwrw rhad,
Rhosyn Surrey sy’n siarad
Olé a Michael Owen
a’r Sun yn wir sy’n ei wen;
ugain rheg yw ei gan rydd,
‘Ere we go yw ei gywydd.O haul y bar ac alaw
Eng-e-land af at fy ngalw;
o Eng-e-land at fy ngwlad,
a’i brain a’i Ab yr Ynad.
Storm gyfeillgar o arw
sy’n well na’u holl groeso nhw,
ac mae yn ei hyngom hi
gawodydd i’n cysgodi.