Es i i’m Talwrn cyntaf neithiwr, yng Nghaffi Emlyn, Tanygroes. Well i mi beidio dweud pwy enillodd, ond o’n i’n synnu faint o’n i’n gallu deall, a faint o’n i’n ei fwynhau. Dw i’n jynci y talwrn! Dw i’n gaethwas i’r mesurau caeth! Mae’n rhy hwyr i mi!
Gofynnodd rhywun a fyddai diddordeb ’da fi sgwennu barddoniaeth. Wel, wrth gwrs, byddai, ond cyn i mi wneud hynny bydd rhaid i mi lledanu fy ngeirfa, meistroli gramadeg a chystrawenau’r Gymraeg, a ffeindio rhywbeth i sgwennu amdano nad ydw i’n teimlo yn amwys neu ansicr amdano yn fy meddwl bach cymysglyd.
Neu, alla i jyst sgwennu limerigs am pobl o’r Congo. Maen nhw’n wastad yn boblogaidd.