“Ere we go” yw ei gywydd

Nawr bod Talwrn a recordiwyd nos Fawrth wedi’i ddarlledu, dyma un o gerddi y tîm llwyddianus, Y Taeogion. Cywydd gan Ceri Wyn Jones ydyw, gobeithio gyda llai o gamgymeriadau sydd ar wefan y BBC. I’r rhai di-ddiwylliedig, fel fi, sy’n colli’r cyfeiriadau, dyma marwnad i Lywelyn ap Gruffudd gan Gruffudd ab yr Ynad Goch.

Cawod

( Yn ddiweddar, gwelwyd Jac-yr-Undeb yn cyhwfan yn braf tu fas y Prince Llywelyn Inn, Cilmeri)

Rhag y gawod cysgodaf
fan hyn dros ryw beint fin haf;
man lle na bo syrthio sêr
na hynt y gwynt dros gownter;
bar uniaith, lle i’r Brenin,
a, gorau oll, bar â sgrin.
Man yw hon lle rym mewn haid
yn cusanu’r Sacsoniaid.

Gem Lloegr yw’r Cilmeri
cawod haf a welaf i,
ac ar ôl ei gwrw rhad,
Rhosyn Surrey sy’n siarad
Olé a Michael Owen
a’r Sun yn wir sy’n ei wen;
ugain rheg yw ei gan rydd,
‘Ere we go yw ei gywydd.

O haul y bar ac alaw
Eng-e-land af at fy ngalw;
o Eng-e-land at fy ngwlad,
a’i brain a’i Ab yr Ynad.
Storm gyfeillgar o arw
sy’n well na’u holl groeso nhw,
ac mae yn ei hyngom hi
gawodydd i’n cysgodi.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Tolkien a’r Gymraeg

Erthygl Catchphrase ar berthynas JRR â’r hen iaith a’r tebygrwydd rhwng Cymraeg a Sindarin, iaith y bobl elfaidd ym myd Tolkien:

“Perhaps I might say just this – for it is not an analysis of Welsh, or of myself, that I am attempting, but an assertion of a feeling of pleasure, and of satisfaction (as of a want fulfilled) – it is the ordinary words for ordinary things that in Welsh I find so pleasing. Nef may be no better than heaven but wybren is more pleasing than sky. Beyond that what can one do? For a passage of good Welsh, even if read by a Welshman, is for this purpose useless. Those who understand him must already have experienced this pleasure, or have missed it for ever. Those who do not cannot yet receive it. A translation is of no avail. For this pleasure is felt most immediately and acutely in the moment of association: that is in the reception (or imagination) of a word-form which is felt to have a certain style, and the attribution to it of a meaning which is not received through it. I could only speak, or better write and speak and translate, a long list: adar, alarch, eryr; tân, dwfr, awel, gwynt, niwl, glaw; haul, lloer, ser; arglwydd, gwas, morwyn, dyn; cadarn, gwan, caled, meddal, garw, llyfn, llym, swrth; glas, melyn, brith and so on – and yet fail to communicate the pleasure. But even the more long-winded and bookish words are commonly in the same style, if a little diluted. In Welsh there is not as a rule the discrepancy that there is so often in English between words of this sort and the words of full aesthetic life, the flesh and bone of the language. Welsh annealladwy, dideimladrwydd, amhechadurus, atgyfodiad and the like are far more Welsh, not only as being analysable, but in style, than incomprehensible, insensibility, impeccable or resurrection are English”.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Chwistrelliad barddoniaeth

Es i i’m Talwrn cyntaf neithiwr, yng Nghaffi Emlyn, Tanygroes. Well i mi beidio dweud pwy enillodd, ond o’n i’n synnu faint o’n i’n gallu deall, a faint o’n i’n ei fwynhau. Dw i’n jynci y talwrn! Dw i’n gaethwas i’r mesurau caeth! Mae’n rhy hwyr i mi!

Gofynnodd rhywun a fyddai diddordeb ’da fi sgwennu barddoniaeth. Wel, wrth gwrs, byddai, ond cyn i mi wneud hynny bydd rhaid i mi lledanu fy ngeirfa, meistroli gramadeg a chystrawenau’r Gymraeg, a ffeindio rhywbeth i sgwennu amdano nad ydw i’n teimlo yn amwys neu ansicr amdano yn fy meddwl bach cymysglyd.

Neu, alla i jyst sgwennu limerigs am pobl o’r Congo. Maen nhw’n wastad yn boblogaidd.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Iaith y bricsen

Krazy Kat, natur cariad, hunaniaeth a lenguage:

Krazy’s ignorance of contemporary discourse plays a large part in his mishaps and misinterpretations, as he would be the first to admit. "Why is `lenguage’, `Ignatz’?" he asks in a 1918 daily. "`Language’ is, that we may understand one another," replies Ignatz, but the dissatisfied Krazy asks whether "a Finn, or a Leplender, or a Oshkosher" can understand Ignatz and vice-versa, to which Ignatz can only respond in the negative. "Then, I would say," Krazy concludes, "lenguage is, that we may mis-unda-stend each udda."

[via wood s lot]

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Dwyieithrwydd yn ysgolion Connecticut:

"It’s not just that they have all learned to speak two languages, but have learned to use their brains in different ways," said Sarmiento, one of a group of teachers who have played key roles in implementing the program. "Learning a new language, using your mind to understand a new language …it teaches your brain to work in new ways and that translates into better performance in other academic work, including things like Connecticut Mastery Tests," Sarmiento said. "National studies show language acquisition develops the mind and that students in a dual language program will do better in areas like science or math."

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Brawd mawr drwg

Mae gwe-cam newydd yng Ngwersyll yr Urdd! Ar y llethr sgio! Wrth gwrs, does dim byd yn digwydd amser hyn o’r nos, ond rhaid sieco yn ôl fory. Lluniau fideo o blantos bychain cwympo i lawr. Yn fwy! Gwych!

Dw i’n ‘r we.

Marchnata feirysol a’r Gymraeg

Dim ond dau ddysgwr oedd yn y dosbarth y bore ’ma, felly siaradon ni am bopeth dan yr haul, gan gynnwys y posibiliadau o ddefnyddio dulliau marchnata feirysol i hybu’r hen iaith.

Y syniadau mwya pwrerus yw’r rhain sy’n dod atom trwy glep a si, nid y rhai sy’n cael eu gwthio gan asiantaethau hysbysebu, neu, yn waeth byth, asiantaethau’r llwyodraeth. Wyt ti wedi gweld hysbysebion teledu Lycos ond ti’n gwybod taw Google yw’r unig chwilotwr sy’n werth ei halen achos dwedodd yr über-nerd yn adran y cyfrifiaduron wrthot.

Mewn byd lle mae asiantaethau o bob liw yn hwfro lan cysyniadau is-dywyllianol fel morgi morfiloedd yn mynd trwy cwmwl plantonig, mae’n well i ni tyrchu ar yr ymylion, lle mae darluniau henfodern, heb sglein y marchnatwyr arnynt, dal i tyfu.

Beth o’n i’n dweud?

O, ie. Trafodon ni ein hoff comics, hefyd.

Dosbarth da.

Blogathon 2002

Dw i wedi cofrestru Morfablog ar gyfer Blogathon 2002, er mwyn codi arian ar gyfer CYD. Gan ddechrau am 2.00 yh ar y 27ain o Orffennaf, bydda i ar lein am 24 awr yn ddi-stop, postio cofnodion at y blog unwaith bob hanner awr o leia. Gallwch fy noddi gan yr awr, neu gan addo rhodd penodol.

Bydd rhaid i mi feddwl o bethau diddorol i’w gwneud ar y diwrnod, ac un syniad yw i gael gweflogwyr eraill i gyfranu dolennau a storiau. Os fyddai diddordeb ’da ti mewn cymryd rhan, gadael neges yn y blwch sylwadau, neu hala e-bost ata i.

Rho glec yma i noddi Morfablog. Diolch yn fawr.

[English version of this entry]

Gaeleg yn y llysoedd (mewn theori)

Erthygl yn y Times (angen tanysgrifio neu ddefnyddio metafilter/metafilter) am alwadau am hawliau cyfartal am siaradwyr Gaeleg yr Alban, gan gynnwys yr hawl i dddefnyddio’r iaith mewn unrhyw achos llys, wrth gymryd prawf gyrru ac i gael ymateb gan gyrff cyhoeddus yn “iaith yr angelion”.

Dalwyd fy sylw gan hyn:

The Scottish executive is monitoring the take-up at the Skye, Uist and Lewis courts. But Russell said: ìWhy would people take civil actions in courts in Skye, North Uist and Lewis? Itís not surprising if the take-up is low. Monitoring this service for take-up is meaningless. If this is a way of showing there is no demand for Gaelic, itís a silly way of proving it.î

Mae hyn yn fy atgoffa o rywbeth clywodd ffrind wrth ymweld â swyddfa’r heddlu, yma yng ngodre Ceredigion (oedd hi wedi mynd â grwp o ddysgwyr i gael cip tu ôl i’r llenni): gofynnodd fy ffrind i’r heddwas oedd yn eu harwain, “Faint o bobl sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg wrth ymddangos o flaen y llys.”

“Dim ond protestwyr iaith,” daeth yr ateb.

Hynny yw, yr unig pobl sy’n debyg i ddefnyddio’r iaith mewn llys yw’r union pobl a’u harestiwyd er mwyn ennill y hawliau hynny.

Dw i’n siwr yr oedd yr heddwas yn gor-ddweud, ond mae ’na rywbeth i gnoi cil drosto yma, yndoes?

A chyn i unrhywun fy nghyhuddio o fod yn fradwr, cachgi, Wncl Twm neu beth bynnag ydw i’r wythnos ’ma, falle dylwn i ddatgan heb os neu oni bai mod i o blaid hawliau ieithyddol i siaradwyr Cymraeg (os nad ydy hyn yn ddigon glir yn barod) – dim ond meddwl am pam nad ydynt yn fwy barod i ddefnyddio eu hiaith mewn sefyllfaoedd felly.

Ac yn y blaen, ac yn y blaen, ac yn y blaen…

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Y band gorau yn hanes y byd. Erioed.

Newydd dod ar draws gwefan Sigur Rós a bydd y penliniadur yn fishi trwy’r nos lawrlwytho o’r casgliad enfawr o MP3s a fideos sy ’da nhw.

Hoffwn i fynd i’w gweld yng Ngwyl Galway ym mis Gorffennaf. Nid mod i wedi cael fy argyhoeddi gan y rhagolwg yma:

Quite simply the finest band in the world, it is a true and immense honour to welcome from Iceland the foremost in Modern Music visionaries to this years’ Festival. Sigur Ros are indescripable, a brave and beautiful new world which until you have experienced you cannot honestly profess to have lived. In the sacred environs of St. Nicholas’ Church this is potentially the most memorable concert of your lifetime.

Ond be wyt ti’n wir feddwl?