Yr unig cwestiwn am farddoniaeth cawson ni’n hanner cywir neithiwr oedd yr un am yr englyn hon gan Dewi Emrys:
Y Gorwel
Wele rith fel ymyl rhod o’n cwmpas
Campwaith dewin hynod
Hen linell bell nad yw’n bod
Hen derfyn nad yw’n darfod.
Yr unig cwestiwn am farddoniaeth cawson ni’n hanner cywir neithiwr oedd yr un am yr englyn hon gan Dewi Emrys:
Y Gorwel
Wele rith fel ymyl rhod o’n cwmpas
Campwaith dewin hynod
Hen linell bell nad yw’n bod
Hen derfyn nad yw’n darfod.
Un o’r lleoedd rhyfedda dw i wedi bod ynddo erioed yw Evermor, Wisconsin, parc cerfluniaid Tom Every (Dr Evermor i’w gyfeillion). Cawson ni groeso arbennig gan Tom a’i deulu, y pei gnau pecan gorau dw i wedi blasu yn fy mywyd a chynnig “tamaid o wisgi” (oedd hi’n cyn deg yn y bore, felly gwrthodais – rhywbeth dw i wedi difaru ers hynny, am ryw reswm).
Dyma tudalen o luniau Evermor, o’r cofnod am celfyddydau allanwyr yn Wisconsin mewn gweflog o Siapen. Wrth gwrs.

[diolch i wood s lot]
Noson fendigedig yng nghymni Mererid Hopwood dan ofal CYD Castell Newydd Emlyn. Roedd brwdfrydedd y prifardd yn heintus dros ben; roeddwn i am ymuno â dosbarth barddoni yn y man a’r lle. Clywon ni am ei phrofiadau fel y ferch gyntaf i ennill cadair yr Eisteddfodd, wrth reswm, ond dysgais llawer mwy amdani. Am fod hi’n ddoctor o Almaeneg, er enghraifft. Prif pleser y noson (ar wahan i Ellie ennill y raffl, da iawn tremendos) oedd clywed Mererid darllen o’i hawdl.
Yng nghanol yr holl symudiadau ’ma ar y weflog, dw i wedi bod ma’s i gymryd rhan yn Cwis Tydfor, noson sy’n cael ei threfnu gan Y Gambo bob blwyddyn. Ffurfion ni tîm Penmorfa, a daethon ni i mewn yn bumed ma’s o ryw 12 tîm naw tîm (diolch Phil). Bydden ni wedi wneud yn lot well ’sen ni’n gwybod unrhywbeth am englynion. Doedd fy nghynllun i o rhoi “Dic Jones” fel ateb i bob cwestion yn yr adran ’na ddim yn llwyddianus iawn. Enillwyd Tarian Coffa Tydfor gan Tîm Mari – dylai Mari ei hunan fod wedi bod ar ein tîm ni, ond gâth hi ei photsio gan dîm mwy profiadol.
Dyma ni ‘te. Roedd hynny llawer haws nag o’n i’n disgwyl, a gan fod y ffeiliau i gyd yn cael eu cadw ar fy ngweinydd i oedd yn ddigon hawdd i haco i mewn i batrymlunau a newid y dyddiadau i’r Gymraeg, ac yn y blaen. Gobeithio bod hyn yn ddigon hawdd i’w ddarllen. Rhowch wybod os welwch chi unrhyw broblemau wrth defnyddio’r wefan.
Dyma fi chwarae gyda patrymlun TeipSymudol.
Bydda i’n symud y weflog ’ma cyn bo hir.
Heddiw, dw i’n sganio lluniau newydd ar gyfer gwefan Robin Holtom. Bydda i’n ail-wneud y wefan cyn bo hir, felly dyma’ch cyfle ola i weld y lluniau sydd arni ar hyn o bryd.

Language Learning and Technology: rhifyn arbennig am dechnoleg ac ieithoedd brodorol. Llawer o erthyglau diddorol, megis yr un ar y rhyngrwyd ac ieithoedd brodorol yr Amerig. Ar diwedd yr erthygl honno, mae ’na ddolen i wefan ysgol gynradd Tulalip, sy’n llawn dop o bethau diddorol a difri.
Dyma llyfr newydd sy’n gofyn pob math o gwestiynau diddorol am iaith, cenedl ieithyddol ac anghydraddoldeb rhywiol, gan gynnwys penod(au) ar y Gymraeg:
Among the issues discussed for each language are the following: What are the structural properties of the language that have an impact on the relations between language and gender? What are the consequences for areas such as agreement, pronominalisation and word-formation? How is specification of and abstraction from (referential) gender achieved in language? Is empirical evidence available for the assumption that masculine/male expressions are interpreted as generics? Can tendencies of variation and change be observed, and have alternatives been proposed for a more equal linguistic treatment of women and men?
[rhagor]
Beth yw’r brenhiniaeth? Do’n i ddim yn gwybod fod cymaint o’r rigmarôl ‘traddodiadol’ ynglyn â’r teulu Windsoraid wedi’i ddyfeisio mor ddiweddar:
“Jubilees,” the periodic celebrations of a monarchs survival in office that are now a tiresome feature of life, are also took on their present importance in the last century [h.y. yr ugeinfed ganrif]. The jubilee to mark 25 years of office for George 5 had “no exact precedent” writes Cannadine. But suddenly the church service on jubilee day was “something very much like a Holy Communion” according to an admiring Ramsay Macdonald.
[rhagor]
Dw i’n gwybod bod y fath dyfeisio yn ddigon cyffredin ond mae’r syfrdanol faint o’r celwydd mawr Prydeinig dyn ni wedi’i fewnoli. Yn erthygl yn y Barn newydd, mae Dafydd Morgan Lewis yn dweud “a minnau tua’r tair ar ddeg oed cofiaf ysgrifennu ar gefn copi o Lyfr Mawr y Plant y geiriau ‘I believe in the Royal Family.’” Amser i roi’r pethau plentynaidd heibio?
Ar y llaw arall, gall giamocs Phil Battenburg godi gwên o hyd.
[dolennau oddi wrth plep]
Mae Coedwig yr Ysbrydion yn llyfr/gêm/comic o Fwlgaria, gyda changen ffabaf y tylwyth teg y gwelwch chi erioed. Mae ’na reswm da am y gwên ar wyneb Goran.
[oddi wrth glosses]