Casgliad Geoff Charles

Geoff Charles yn y Drych Digidol:

Mae cyfraniad Geoff Charles i ffotograffiaeth Cymru yn unigryw. Bu’n gweithio fel ffoto-newyddiadurwr o’r 1930au hyd at y 1970au a daeth at y gwaith hwnnw gyda dawn naturiol a chydymdeimlad dwfn ’’i destun. Cofnododd yn arbennig ddigwyddiadau a phersonoliaethau y Gymru Gymraeg. Erbyn heddiw mae archif Geoff Charles yn un o drysorau’r Llyfrgell Genedlaethol.

Un o’i ddelweddau mwya enwog (un o ddelweddau mwya enwog Cymru) yw ei bortread Carneddog a’i wraig cyn gadael Carneddi. Ddim cweit mor gyfarwydd, efallai, yw ei lun o fy nain a’i chyfeillion, Côr Merched Pentre.

[English]