Ai iaith yw technoleg gwybodaeth?

Mae ’na rywbeth cyfarwydd iawn ynglyn â’r stori hon, eto o gylchgrawn Wired. Pan o’n i yn yr ysgol, nôl yn yr oesoedd canol (h.y. cyn y cwricwlwm cenedlaethol a Chymraeg orfodol) roedd rhaid i mi ddewis rhwng astudiaethau cyfrifiadurol (fel y’u gelwid amser ‘ny) a Chymraeg. Er fy mod yn agos at top fy nosbarth Cymraeg ail iaith, ces i fy nghyngori gan bawb i neud compiwters achos dyna ble oedd y dyfodol (ac, i fod yn onest, dyna ble oedd fy niddordeb – dw i wedi bod yn dweeb erioed). Felly, yn lle meistroli hen iaith y nefoedd bondigrybwyll, ces i fy nhrwytho yn ieithoedd llawer mwy defnyddiol, megis BASIC a LOGO, medrau sy wedi bod heb unrhyw les i mi o gwbl yn fy ‘ngyrfa’.

Sensing widespread opposition, the state government set up a review team called Vijay Bhatkar committee to examine its own proposal. Dr. Vijay Bhatkar, a decorated scientist in India said, “We recommended that IT not be made an optional (second language) along with other languages, as Marathi will suffer. I believe not 60, but 80 percent of the students choose Marathi. But the government has retained its decision ignoring our recommendations. The education minister is very firm about his position.”
[rhagor]

Comments are closed.