Dw wedi bod yn darllen Blodyn Tatws gan Eirug Wyn, ac un o’r pethau oedd yn fy mhoeni oedd y ffaith bod y cyfrifiadur, NESTA, yn gallu deall Cymraeg lafar ac ateb yn yr hen iaith hefyd. Mae’n jyst yn bosib y bydd cyfrifiaduron wedi’u datblygu sy’n deall Saesneg erbyn canol y ganrif hon, ond anhebyg iawn bydden nhw’n gallu defnyddio’r Cymraeg. Mae Microsoft yn arllwys miliynau i mewn i ymchwilio’r posibiliadau, gan ganolbwyntio ar saith iaith – dydy’r Gymraeg ddim ar eu rhestr.
Ta beth, dyma gweflog am brosesu ieithoedd naturiol, tarddle da am fwy o wybodaeth am y maes hynod o bwysig hwn.
[oddi wrth 'sglaig o gyfieithydd]
Dw i’n falch iawn i weld taw hon yw’r trydydd canlyniad Google am yr adroddiad open the pod bay doors. Croeso mawr i bob ffan Stanley Kubrick sy’n dod ar draws y neges ‘ma.