Dwyieithog? Neu iaith a hanner?
Codir cwestiynau cyfarwydd gan erthygl Crawford Kilian:
One interesting aspect of the White House site is that it’s now bilingual. You can read all the site text in Spanish if you prefer. But as Nielsen notes, when you switch to Spanish, all the navigation guides remain in English! Spanish speakers may enjoy the convenience, but they’ll also get the nonverbal message: You don’t matter enough for us to take any real trouble to make this site navigable for you.
[rhagor]
Mae’r canol ar y ffin
Ai iaith yw technoleg gwybodaeth?
Mae ‘na rywbeth cyfarwydd iawn ynglyn â’r stori hon, eto o gylchgrawn Wired. Pan o’n i yn yr ysgol, nôl yn yr oesoedd canol (h.y. cyn y cwricwlwm cenedlaethol a Chymraeg orfodol) roedd rhaid i mi ddewis rhwng astudiaethau cyfrifiadurol (fel y’u gelwid amser ‘ny) a Chymraeg. Er fy mod yn agos at top fy nosbarth Cymraeg ail iaith, ces i fy nghyngori gan bawb i neud compiwters achos dyna ble oedd y dyfodol (ac, i fod yn onest, dyna ble oedd fy niddordeb - dw i wedi bod yn dweeb erioed). Felly, yn lle meistroli hen iaith y nefoedd bondigrybwyll, ces i fy nhrwytho yn ieithoedd llawer mwy defnyddiol, megis BASIC a LOGO, medrau sy wedi bod heb unrhyw les i mi o gwbl yn fy ‘ngyrfa’.
Sensing widespread opposition, the state government set up a review team called Vijay Bhatkar committee to examine its own proposal. Dr. Vijay Bhatkar, a decorated scientist in India said, “We recommended that IT not be made an optional (second language) along with other languages, as Marathi will suffer. I believe not 60, but 80 percent of the students choose Marathi. But the government has retained its decision ignoring our recommendations. The education minister is very firm about his position.”
[rhagor]
Gorchestiaeth Ieithyddol, rhan 2,382
Byddai rhai o’r ystrydebau yn yr erthygl hon yn chwerthinllyd, tasen nhw ddim yn dod o ysgolhaig y cyfraith mewn prifysgol Canada. Gall plentyn weld y gwallau yn y dadl ‘ma:
A commission study released this week showed French is absent from 62 percent of 42 foreign embassy websites surveyed, while English is missing from 5 percent.“The idea that there is a divide being created along language lines — it just doesn’t work,” he says. “English is clearly the dominant language on the Internet. I don’t know that there’s a divide being created between English and French. English is the language of choice for so many.”
[rhagor]
Felly, os ydw i’n deall hyn yn iawn, y dewis yw Saesneg neu dim byd. Y ffaith bod pobl ddwyieithog yn dewis Saesneg yn hytrach na dim byd yn profi bod hi’n well ‘da nhw Saesneg na Ffrangeg. Felly, does dim pwynt darparu gwefannau yn Ffrangeg achos bydd pobl yn darllen y fersiwn Saesneg, fel maen nhw nawr. Why Professor Geist, you’re a genius!
Yoshitomo Nara

Termau Ymchilio yr Wythnos
Croeso i’r person oedd yn chwilio am ateb i’r cwestiwn tra phwysig “What does siarad Cymraeg mean?”.
Gwallt pinc a’r iaith uffernol
Profiadau wrth geisio dysgu Basgeg. Erthygl Salon.
So I e-mailed my dad, “How’s the Basque going?” Reply from the MIT professor emeritus of linguistics: “F—ing language from hell. This is a waste of my time.”We gave up. Our running joke was: “Well, we’ll be fine as long as we learn to say, ‘I support your cause. Please do not shoot.’” Really, it’s just a joke — I have no idea how to say that. And I’m thankful it didn’t come up.
[rhagor]
DÙl ffrwythlon dolennau
Syllwyddor Tsieroci, ieithoedd a llenyddiaeth y byd hynafol a hen Saesneg. Dim ond tri dolen, bron ar hap, ffeindiais i ar weflog fabulousness.
Diolchiadau hefyd i’r môr-forwyn enigmatig, am fy rhoi ar lwybr trwy goedwig y gweflogau ieithyddol. Mae mwy ohonyn nhw nag o’n i’n dychmygu.
“Why we write in English.”
Cyfweliad â dau awdur o Affrica sy’n sôn am eu rhesymau dros dewis Saesneg yn lle eu hieithoedd brodorol.
Whatever their choices, African poets know that they are excluding part of their intended audience and limiting their own creative mode of expression, since most are, because of colonization, quite literally multi-lingual people. Within these choices of language, such multi-lingual African poets find limitations to overcome and freedoms to enjoy. Use of the English language, which carries the baggage of the oppressor’s culture, usually becomes a mode of stimulating mental exercise. On the other hand, the Shona and Ndebele languages, which are most Zimbabwean poets’ more natural forms of communication and expression of feelings, unfortunately limit the global exposure of their work.
[rhagor]
“Open the pod bay doors, HAL”
Dw wedi bod yn darllen Blodyn Tatws gan Eirug Wyn, ac un o’r pethau oedd yn fy mhoeni oedd y ffaith bod y cyfrifiadur, NESTA, yn gallu deall Cymraeg lafar ac ateb yn yr hen iaith hefyd. Mae’n jyst yn bosib y bydd cyfrifiaduron wedi’u datblygu sy’n deall Saesneg erbyn canol y ganrif hon, ond anhebyg iawn bydden nhw’n gallu defnyddio’r Cymraeg. Mae Microsoft yn arllwys miliynau i mewn i ymchwilio’r posibiliadau, gan ganolbwyntio ar saith iaith - dydy’r Gymraeg ddim ar eu rhestr.
Ta beth, dyma gweflog am brosesu ieithoedd naturiol, tarddle da am fwy o wybodaeth am y maes hynod o bwysig hwn.
[oddi wrth 'sglaig o gyfieithydd]
Chwilio am yr Amerig
Exit Here: chwilio am yr Amerig go iawn.
Yn 1993, teithiais i ar draws yr Unol Daleithiau gyda’m cariad. Dyma un o’r motels arhoson ni ynddo.
Cipolwg gwahanol ar ddiwylliant Cymru
Os dych chi’n gallu anwybyddu’r tudalen cynta hyll a’r baneri porn ar bob tudalen arall mae’n werth ymweld â dyn y blaidd, yn enwedig y Essential Guide to Welsh Pop Culture. Nid jyst y criw arferol sydd yma, ac mae gan y boi ffordd gyda’i eiriau, rhaid cyfaddau:
R.S.Thomas: The Joy Division of Welsh poetry.Augustus John: the Hello magazine of his day.
Murray the Hump: A band that manages to sound louche and naive at the same time.
Grandad Jack
Dw i’n sganio hen luniau heno.
Dyma fy nhaid, tad fy nhad, fel bachgen.

[Gol. 6/5/07 - hmm, llun wedi diflannu. Ni phoener, llawer mwy fan hyn.]
“He must be on something.”
Dechreuais i drafodaeth Metafilter am weflogau arbenigol. Braidd yn brin oedd yr atebion, ond dw i’n hoffi fuckcorporategroceries (<homer> mmm, bwyd </homer>), ac mae ‘na lu o ddolenau diddorol ar cioran63 (sydd yn Almaeneg, ond gyda llawer o luniau).
Cyfieithwyr y byd, unwch!
Un byd, un iaith. Erthygl gan Vincent Buck (o’r glossblog) am rôl y cyfieithydd yn y Ewrop (a’r byd) newydd.
Glossblog
Newydd ddod ar draws glossblog, gweflog am ieithoedd. Mae ‘na gormod o ddolennau ‘na i mi eu dwyn heno, ond tebyg iawn bydda i’n ailgylchu storiau Vincent yn yr wythnosau i ddod.
Dyma dau i ddechrau:
Rhyfelau ieithyddol erthygl yng nghylchgrawn Harvard.
Holiadur ar ddwyieithogrwydd ac emosiynau
Cofio Tryweryn yn Lerpwl
Drueni collais i hyn ar y pryd, ond mae’n debyg yr oedd arddangosfa am Dreweryn yn Lerpwl yn gynt eleni. Wrth darllen fersiwn BBC hanes boddi Capel Celyn des i ar draws hyn:
In 1936 Penyberth in Caernarvonshire was drowned…
Meddwl am rywbeth arall, tybed?

Llyn Celyn gan Richard Page
Mwy am waith Richard Page yn Nhreweryn.
Oblivio
Stori gyffrous. Mae bywyd yn gyffrous, weithiau, ondyfe?
Ambigram
Meddyliwch am ddau air o’r un hyd a’u rhoi nhw yn yr Ambigram.Matic i gael un gair plith-draphlith. Mae rhai’n gweithio yn well nag eraill. Cofiwch dod yn ôl a rhoi gwybod am unrhyw canlyniadau diddorol a gewch chi.
[oddi wrth iconomy]
Celfyddydau ochr y ffordd
Pwy sy’n penderfynu beth yw beth yw sothach a beth yw celfyddydau? Cwestiynau diddorol mewn safle o Dde-Orllewin yr Amerig.
Next Page »