Afal newydd

Mae’r Mac newydd wedi cyrraedd, felly dw i’n cael llawer o hwyl danganfod yr holl wahaniaethau rhwng Windows ac OS X.

Mae popeth yn edrych yn iawn, hyd yn hyn. Dw i wedi llosgi CD, chwarae DVD, a dyma fi syrffio’r we. Fel dwedodd Vincent Vega a Dewi Sant, y pethau bychain sy’n bwysig.

Mayonnaise

Y bore ’ma, yn y dosbarth yn neuadd yr eglwys yn Llangrannog, ro’n ni’n sôn am San Francisco. Roedd pawb yn y dosbarth wedi bod yn S.F., sy’n peth digon od (mae’n ddosbarth bach). Ro’n i’n siarad â Lizzie ac ro’n ni’n trïal cofio enw y sgwar yn S.F. ble oedd y hipis yn casglu. Do’n ni ddim yn gallu cofio.

Wrth ddarllen trafodaeth Metafilter am Robert Crumb des i ar draws dolen i stwff am Richard Brautigan, un o’m hoff awdurion o adeg y hipis. Pan o’n i yn America yn 1993, nes i fynnu fynd ma’s o’n ffordd i ymweld &acirc thref fach o’r enw Thoreau, New Mexico, achos mod i’n cofio darllen stori Brautigan.

So, dyma fi edrych am lyfrau Richard Brautigan, a dyma fi’n agor Trout Fishing in America, a dyma’r geiriau agoriadol:

The cover for Trout Fishing in America is a photograph taken late in the afternoon, a photograph of the Benjamin Franklin statue in San Francisco’s Washington Square.

Wrth gwrs, Washington Square.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Ionawr 18 -20
Penwythnos Addysg Wleidyddol

Globaleiddio a’r Iaith Gymraeg
Clwb y Bont Pontypridd ( lleoliad i’w gadarnhau yn bendant)
Adam Price AS a Ben Gregory yn cymryd rhan.
Rhan o baratoadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfer ysgrifennu Maniffesto 2002.

Dydd Sadwrn Chwefror 9fed
Rali Trefechan 2002

Mae’r Frwydr yn Parhau
Pont Trefechan Aberystwyth 11 o’r gloch

Mawrth 8 – 10 2002
Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas

Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth

Dydd Sadwrn Ebrill 20fed
Cynhadledd Ceredigion

Oes Dyfodol i’r Gymraeg yng Ngeredigion?
Gwesty’r Plu, Aberaeron
Gyda:Dr Dylan Phillips, Dr Delyth Morris, Hywel Evans (Menter a Busnes), Dilwyn Roberts-Young, Sian Howys

cymdeithas.com

Penwythnos o Gyrsiau Cymraeg – Plas Tan y Bwlch

Mae’r Plas yn cynnig dau gwrs dros y penwythnos Mawrth 8fed – 10fed:

Adar y Gaeaf – Twm Elias
Ar yr adeg hon o’r flwyddyn bydd llawer iawn o’r gwahanol adar fu gyda ni dros y gaeaf yn dal o gwmpas yn yr aberoedd, yn hwyaid, rhydyddion, gwyddau ac elyrch gwylltion. Yn ogystal gallwn ddisgwyl gweld nifer o rywogaethau fydd yn pasio heibio ar eu ffordd i’r gogledd, fydd ond i’w gweld yn y gwanwyn a’r hydref fel arfer, ar eu teithiau ymfudol rhwng eu cynefinoedd gaeafu a nythu. A phwy a wyr? Efallai y cawn groesawu ymfudwyr cynta’r gwanwyn – y siff-saff a thinwen y garn.

O’r Blaenau i’r Traethau – Creigiau, Tirffurfiau a Dyn – Dyfed Elis-Gruffydd
Mae hanes y creigiau a’r tirffurfiau godidog Morfa Harlech, yn ddigon o ryfeddod. Ond nid llai diddorol a rhyfeddol yw’r modd y mae dyn, ar hyd y canrifoedd, wedi manteisio ar gyfoeth creigiau a thirffurfiau’r fro. Roedd meini’r ardal yr un mor bwysig i gymunedau cynhanesyddol ag yr oeddent i berchnogion chwareli llechi Ffestiniog, ac oni bai am rym erydol rhewlif Stwlan fyddai hi ddim wedi bod yn bosib datblygu cynllun trydan-dwr Tanygrisiau!

Manylion
Jaci Thomas
plas@eryri-npa.gov.uk

via’r rhestr WriteWelsh