David Crystal ar iaith y we

Yn Golwg wythnos diwetha, oedd erthygl yn dweud nad yw Cymraeg yn bodoli ar y we, a Saesneg yw iaith frodorol y cenedl wedi’i wifrennu. Roedd y boi yn yr erthygl rhyw fath o arbenigwr, mae’n debyg, ond ces i’r argraff nad yw’n hala llawer o’i amser defnyddio’r offer mae’n e’n sgwennu amdanyn. Er enghreifft, roedd e’n honi nid oes chatrooms Cymraeg eu hiaith ar gael ar y we, ac mae hyn yn arwydd bod Gymraeg ar fin farw fel iaith fodern, neu rhywbeth. (Ydy unrhywun yn defnyddio chatrooms y dyddiau hyn? Ar wahan i ddynion canoloed sy’n esgus bod nhw yn eu harddegau ac sy’n cael seiba-secs gyda dynion canoloed eraill sy’n esgus bod nhw yn eu harddegau, hefyd. But I digress…) Yr awgrym oedd, dylai’r Doethion yn y Docs wneud rhywbeth i helpu plant y ganrif newydd cymryd eu cyfrifoldebau tuag at yr iaith o ddifri.

Eniwei:

what if this alleged absolute domination by the English language and its cultural implications were simply a transitory phenomenon, in its early stages and therefore reversible?

Mae digon o dystiolaeth o blaid y cred hwnna. A digon yn ei erbyn, chwarae teg. Ond nid ar y llywodraeth bydd y bai ’sen ni ddim yn creu ein diwylliant ein hunain yn ein hiaithoedd ein hunain.

  1. Rydw i’n credu bod rhaid i fwy o bobol yng Nghymru wneud pethau gorau i’r Gymraeg, fel er enghraifft, ac yn gyntaf, gwneud POPETH yn Gymraeg a SIARAD ’ phob un yn Gymraeg, yn y strydoedd a mewn pob m’n. Dwi’n gwybod bod llawer o bobol ddim yn siarad Cymraeg yng Nghymru, ond pe base pob un yn ei gwneud, fe fydde’r bobol sydd yn siarad Saesneg yn unig yn dysgu’r Cymraeg achos fe welen nhw ei bod hi’n bwysig iawn.

    Dwi’n Sais, a dwi’n byw yn Barcelona, ble mae pob un yn siarad Catal·n, dim Sbaeneg, a does dim problemau gyda’r iaith yma. Mae’n nhw’n hoff iawn o’u iaith ac fe ddyle pob Cymro a Chymraes mwynhau siarad eu iaith hefyd. Pam defnyddio’r iaith fain pan mae iaith hyfryd a phert i ddefnyddio yn ei lle????