Blogger Pro yn y Gymraeg?

Dw i wedi gofyn i Evan Williams a fydd hi’n bosibl i ddatblygu fersiwn Cymraeg o Blogger Pro. Ei ateb e:

Well, if we find a Java locale class for Welsh (I’m sure there is one), maybe we can integrate it. But I can quite take time to figure out how to write one just yet.

Tebyg bod pethau eraill ’da fe i boeni amdanyn nhw. Felly, cwestiwn cyntaf – oes ’na unrhywun sy’n darllen hwn sy’n gwybod beth yw Java locale class (dw i wedi ffindio cwpl o dudalennau, ond, fel ein ffrind Ifan ap Gwilym, does dim lot o amser sbâr ’da fi) ac os felly, sut i adeiladu un yn y Gymraeg? Unrhywun sy’n gwybod sut mae Google yn handlo pethau fel hyn?

Rhowch wybod, da chi.

Mae sylwadau ar gau