Wampam

A all iaith fod yn wampam?

Wampum served to engender further diplomatic contact; its presentation was a gesture that required a repricocal effort on the part of the recipient. Acceptance of the gift of wampum implied the acceptance of its message. In this way, wampum functioned like a certificate. This wampum belt is an abstract representation of an alliance between two peoples, signified by the straight path running between them.

Yma yn Llangrannog, lle mae llai na 30% o bobl y plwyf yn medru’r iaith, mae cynllun yn yr arfaith i droi hen gapel i ganolfan gelfyddydau neu ganolfan ddywylliannol neu ganolfan beth-bynnag-y-gall-pobl-gytuno-arno-fe. A fydd hi’n bosibl i greu rhywbeth Cymraeg a Chymreig ei naws heb godi y fath stwr dyn ni wedi gweld gormod ohono yn ddiweddar?

Dw i’n cofio darllen erthygl yn Planet sbel yn ôl oedd yn awgrymu y bydd hi holl bwysig am ddyfodol yr iaith yng Nghymru i ddod â Chymry di-Gymraeg i mewn i’r cylch – a gan Cymry, o’n nhw’n sôn am bobl Cymru i gyd – ‘sdim ots o ble wyt ti’n dod, ble wyt ti’n mynd, gyfaill?

A all y Gymraeg fod ein wampam ni, ‘te?

Mae sylwadau ar gau