Argraffiadau cyntaf: Rhestr o 92

Argraffiadau cyntaf:

  • Rhestr o 92 iaith am dyddiadau ac yn y blaen, ond dim Cymraeg hyd yn hyn, er fod nifer o weflogau Cymraeg eu hiaith wedi dwbli dros y mis diwetha!

  • Dim digon o gefnogaeth i’r Mac, o hyd, yn enwedig gyda shortcuts Javascript. Dylwn i ddysgu AppleScript a sgwennu fy shortcuts fy hunan, sbo, ond nawr mod i’n gwsmer sy’n talu, dw i eisiau gwasanaeth cystal â un Windows, damia!
  • Dw i eisiau merlyn, hefyd.
  • Hoffi’r bwlch teitl, ac un neu ddau welliannau yn y rhyngwyneb. Mae amser ymateb wedi gwella, hefyd (tybed mae Pyra yn defnyddio gweinyddion newydd i’r cwsmeriaid newydd.
  • Peth gorau bydd yr opsiwn i hala negeseuon newydd trwy ebost at unrhywun sy’n ddigon dwl i danysgrifio i restr bostio (gwiliwch y lle ar y chwith…)

Ar y cyfan, dw i’n falch mod i wedi talu am y gwasanaeth newydd. Mae Blogger wedi bod yn rhad ac am ddim ers y dechrau, ac dydy $1 yr wythnos ddim yn ormod i ofyn am wasanaeth tipyn bach yn well.

Comments are closed.