Dechreuwch bob sgwrs yn Gymraeg.

Stori Teifi-Seid:

Lansiwyd prosiect newydd a chyffroes i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg gan Menter Iaith Ceredigion, Cered, yn Llambed.

Nod y prosect yw annog siaradwyr Gymraeg i ddefnyddo’r Gymraeg yn gyntaf yn eu bywyd bob dydd, a thrwy hynny datblygu eu hyder yn eu defnydd o’r iaith.

‘Yn ystod cyfnod y prosiect byddwn yn marchnata’r neges ‘Dechreuwch bob Sgwrs yn Gymraeg’, drwy gyfrwng arwyddion, sticeri ar ffenestri siopau, bathodynnau, bagiau a matiau cwrw,’ meddai swyddog datblygu Cered, Dilwyn Jones, ‘ac mae busnesau Llambed eisioes wedi dangos cefnogaeth eang i’r prosiect drwy gytuno i arddangos y nwyddau marchnata yma.’

Syniad da. Pam nad oes sôn amdano ar eu gwefan, tybed?

Datganiad Cyffredinol o Hawliau Ieithyddol

Mae pawb yn gyfarwydd â’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol:

Erthygl 2

Y mae gan bawb hawl i’r holl hawliau a’r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn, heb unrhyw wahaniaeth o gwbl, yn arbennig unrhyw wahaniaeth hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn boliticaidd neu unrhyw farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, geni neu safle arall.

Ond o’t ti’n gwybod bod Datganiad Cyffredinol o Hawliau Ieithyddol i gael, hefyd? Dyma Joshua Fishman, yn 1991:

The relatively recent Universal Declarion of Linguistic Rights may be viewed as a prelimiminary attempt to support RLS [="reversing language shift"] and to reject anti-LS efforts but, thus far, it has only been adopted by a small number of academic bodies [...] Unlike ‘human rights’, which strike the Western and Westerized intellectuals as fostering wider participation in general societal benefits and interactions, ‘language rights’ still are widely interpreted as ‘regressive’ since they would, most probably, prolong the existance of ethnolinguistic differences.

Cofia’r dyfyniad yn Tynged yr Iaith gan y bardd ac arolygydd ysgolion o Saes, Matthew Arnold:

It must always be the desire of a Government to render its dominions, as far as possible, homogenous . . . Sooner or later, the difference of language between Wales and England will probably be effaced . . . an event which is socially and politically so desirable.

Braf i’w weld bod Cymuned am ddilyn awgrymiadau Fishman (yn bennaf yn ei lyfr Reversing Language Shift) – dyma un dadl na fydd yn cael ei ennill gan floeddio’n uwch na’r ochr arall. Mae ’na fwy ohonyn nhw, ond ni yw’r Xmen.

Nunatinnit ar y we

nunatinnit.net

Mae nunatinnit.net yn wledd o storiau, lluniau a ffeiliau MP3 o Ynys Baffin.

Mae Newyddion Nunatsiaq yn bapur newyddion Inuit. Mwynheais i’r stori bach hon am y fforiwr a ethnolegydd Lucien Turner, yn enwedig ei ddisgrifiad o “dominôs yr Inuit”:

“The Inuit who come from the western end of Hudson Strait… have a game which they play with sets of pieces of ivory cut into irregular shapes, and marked on one face with spots arranged in different patterns,” Turner wrote

“The number of pieces in a set varies from 60 to 148. The name of a set is ° ma zô a l…t, and somewhat resembles our game of dominoes.

“The pieces are designated by pairs, having names such as ka mÅ tik (sled), kaiak (canoe), kal» sak (navel), … ma zut (many), a taô sik (1), m… kok (2), ping a sut (3), si t… môt (4), and t… li m…t (5). [...]

“The northern Eskimo stake the last article they possess on the issue of the game. Their wives are disposed of temporarily, and often are totally relinquished to the victor. I have heard of wives so disposed of, often sit down and win themselves back to their former owners.”

[via kiplog]

Fin nos, Fan hyn

Bron wedi bennu fy nhraethawd ar Gerallt Lloyd Owen. Dyw i ddim yn hapus gyda fe, ond ‘sdim amser ’da fi i ail-ddechrau. Fel hyn o’n i’r tro cynta nes i gwrs coleg. Popeth yn funud ola, ddim digon o ddarllen cefndir, traethodau nid cweit mor dda â gallen nhw fod. Och.

Wrth edrych trwy rhestr ail-gyfeiriadau y weflog, mae’n debyg nid fi yw’r person ola i bennu ei draethawd. (Tip i’r person oedd yn chwilio am “Gerallt Lloyd Owen – Ei Bywyd”: mae treiglad meddal ar ôl ‘ei’. Croeso. A phob lwc.)

Shutterbug Follies

Os wyt ti’n ffan comics byddi di wrth dy modd gyda Bee – Shutterbug Follies gan Jason Little, Efrog Newydd. Yr unig problem yw, dyw y stori ddim wedi bennu eto: darllenais i drwy’r 37 tudalen sydd ar y wefan ac yn awr dw i’n ffaelu aros am rifyn 38.

O.N. O’n i meddwl oedd yr enw yn gyfarwydd – Jason Lytle yw canwr gyda Grandaddy, un o’r grwpiau gorau i ddod o’r Amerig yn ddiweddar. Dyma cyfweliad gyda nhw a dyma tirwedd Grandaddy.