Llais yr Aelodaeth

Heddiw, fe lansiwyd Triban Coch, cylchgrawn newydd i aelodaeth Plaid Cymru. ‘Sdim digon o amser ’da fi i’w darllen nawr, mae’r gwichiaid ar y tân. (Nage, nid rhyw fetaffor gwan yw hwwna, dan ni’n wir gael gwichiaid i swper heno.)

Chwerthin ar bennau twristiaid sychedig

Erthygl doniol ond ysgolheigaidd ar iaith y dafarn:

One of the saddest sights of the British summer (or the funniest, depending on your sense of humour) is the group of thirsty tourists sitting at a table in a pub, patiently waiting for someone to come and take their order. In most cases, a friendly native will put them out of their misery by explaining rule number one, or they will figure it out for themselves, but in a busy pub it can be some time before the correct procedure becomes clear.

Research findings: In observation-studies, we timed first-time tourists to find out exactly how long it would take them to discover the no-waiter-service rule. The fastest time – just under two-and-a-half minutes – was achieved by a sharp-eyed American couple. The slowest Ň over 45 minutes Ň involved a group of six young Italians. This group did not, however, seem particularly concerned about the apparent lack of service, being engrossed in a lively debate about football. Sympathy should go to the French couple who marched out of the pub, complaining bitterly to each other about the poor service and British manners in general, after a 24-minute wait.

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd

Dim ond roc a rol

Mae’r War Against Silence yn e-zine cerddoriaeth llawn o adolygiadau hirion. Mae Glenn mor frwdfrydedd am y ffurf mae’n heintus. Dw i newydd ei ffindio, ac mae’n dyddio nôl i Ionawr 1995 (yr oesoedd tywyll yn nhermau’r we), felly mae lot o waith cipio ’da fi i’w wneud.

Dyma fe ar lais Cerys Matthews, mewn adolygiad International Velvet:

Cerys seems entirely comfortable, to me, only in passages, like the choruses of “International Velvet” and the distant two-part harmonies on “Don’t Need the Sunshine”, when it sounds like she’s singing from some completely different hill than the one the microphone is on, letting the countryside absorb part of her enthusiasm for it, so that what reaches us is half the sound of her singing, attenuated to our tolerances, and half the feel of the ground, humming its fondness for her company.

Neu hwn, sy’n sôn am hunanladdiadau Richie James a Kurt Cobain mewn adolygiad o Everything Must Go:

The path from disgust with the world to suicide is lined with so many enticing anomalies that to traverse it you’d have to wear blinders so restrictive that it’s a wonder you can walk. The mass of evil in the world doesn’t cancel out the good. Maybe there are ten evil things for every good one, but the ratio isn’t important. Yes, the world is too hideous a place to live in, but nobody lives in the whole world at once. We build walls towards the monsters, and we gather up whatever good we can find and shelter it as best we know how. Universal entropy and local order are not contradictory, they’re integral parts of the same system. One friend can make a city of ten million strangers a welcoming place. One song can salvage a day of noise. One album can change a life, or save it. It’s a painful irony that sometimes the authors of music with this power can’t feel it, that sometimes, even as they cast a spell of destruction, they are unable to detach themselves from its origin long enough to run around to the other side and hear the hope that inheres in the very sound of it.

[via edau Metafilter - rodii fy mhutain coblynaidd]

Fiends [sic] Reunited

Dw i wedi ail-gysylltu â sawl hen ffrind trwy Friends Reunited a dwi’n edrych ymlaen at gwrdd â rhai ohonyn nhw dros yr Wyl. Ond mae’n beth rhyfedd iawn i weld enwau hen fwlïaid o ddyddiau ysgol. Ro’n i’n synny pa mor grac o’n i’n teimlo wrth weld un enw newydd yn enwedig. Tro diwetha welais i’r boi, o’n i’n trïal amddiffyn fy mhen rhag ei Doc Martins. Calonogol iawn i weld fod e wedi llwyddo dod â thri o blant i’r byd. Pob lwc iddynt.

Ta beth, dydyn nhw ddim wedi clywed bod gwefan arbennig iddyn nhw, ble fydd neb yn cilchwerthin ar ei sgiliau teipio?

Dw i’n gwybod bod hyn yn fychander, ond ’na ni. Ces i wefr euog wrth weld rhywun naeth fy mwlio i (pan o’n i’n saith neu wyth oed) yn cael ei gosb haeddiannol mewn ffrae tafarn ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Fyddwn i ddim yn dda fel Cristion, na fyddwn?

Croesawu penderfyniad am ieithoedd bach

Stori o’r BBC. Mae’n swnio fel newyddion da, ond yn anffodus, dw i wedi yfed gormod o J&B i ddeall yr erthygl. Ond beth sy wedi digwydd i Eurig Wyn? Mae’n edrych fel cymeriad mewn ffilm David Cronenberg:

Mae e’n edrych yn normal ar ei wefan.

Rhaid i mi beidio yfed a blogio. Rhaid i mi beidio yfed a blogio. Rhaid i mi beidio yfed a blogio.

Y rhyngrwyd a myth Babel

Yn ei araith i’r North American Association for
the Study of Welsh Culture and History
honai Geraint H. Jenkins:

Whenever I think of the Internet, I recall the line by Yeats: “A terrible beauty is born.” Far from being a liberating force, the Internet is an agent of cultural imperialism. Technology serves its masters and those masters are English-speaking [..] Cyberspace is synonymous with English and Anglo-Americanism: it’s the very antithesis of linguistic diversity.

Wn i ddim faint o amser mae’r Athro wedi treulio yng ngofodseibar, ond tebyg iawn dyw e ddim wedi crwydro yn bell oddi wrth y llwybrau treuliedig rhwng Yahoo, Microsoft ac Amazon. Mae’n wir, wrth gwrs, taw Saesneg yw iaith cyfalafiaith rhwngwladol, ond falle fod e ddim yn gwybod bod ’na fwy i’r rhyngrwyd na gwerthu pethau, ac mae mwy nag un iaith ar gael ar y we:

At a conference on search engine strategies last April, Alta Vista was predicting that by next year less than half of the Web would be in English. English-language author David Graddol has predicted an even lower figure in due course, 40%. In parts of the world the local language is already dominant. According to the Japanese internet author Yoshi Mikami, 90% of Web pages in Japan are now in Japanese.
[ffynnon]

Y prif reswm dros diffyg defnydd o’r Gymraeg ar y we, yw nid ydyn ni wedi mynd ati i greu gwe Gymraeg ei hiaith.

Does dim gair am hangover yn Gymraeg

yn ôl Myrddin ap Dafydd. Drueni bod peth yn gallu bodoli heb gair i’w ddisgrifio.

Ond, weithiau, mae cael hangover yn dy atgoffa fod di wedi cael diwrnod/noson arbennig o dda, felly dydyn nhw ddim mor wael â hynny. Un o’r rhain yw hwn. (Ydy hangover yn wrywaidd neu yn fenwaidd? Gwrywaidd, mae’n debyg. Ond weithiau, gall cenedl gair fod yn rhyfedd iawn. Barf, er enghraifft.)

Felly, mae hangover hwn (sydd bron wedi clirio erbyn hyn) yn f’atgoffa o’r amseroedd braf ces i ddoe. Dechreuais yfed amser cinio yn y Llew Coch, Aberteifi, gyda criw bach o’m dosbarth Pellach. Dyma tro cynta i fi mynd ma’s gyda grwp o stiwdents sy’n siarad Cymraeg heb cael eu gorfodi. Pan wnaeth un ohonyn nhw anghofio, a throi i Saesneg, oedd y lleill yn ei hatgoffa hi i ddefnyddio ei Chymraeg. Doedd dim byd i mi wneud ond mwynhau fy mheint Parch. Jâms.

Gyda’r nos, gartre, a chyrraeddodd Eirlys a Barbara, ein ffrindiau o Awstralia sy’n aros yn Llangrannog dros y gaeaf ac yn dysgu’r iaith. Arhoson nhw i swper a choginiais i rywbeth Eidalegaidd. Gyda gwin addas, wrth gwrs.

Aeth cyfarfod misol pwllgor lles Llangrannog yn dda iawn, a gorffenon ni erbyn 8.20, felly oedd digon o amser i fynd i’r Llong a chael tair neu phedair potel o’m hoff cwrw organig, Blodeuwedd cyn i Philippa gyrraedd i roi lifft i fi adre.

I bennu’r noson, ces i nostalgia sesh gyda fy nghasgliad o hen singles, a thamaid bach o’r wisgi J&B ces i fel anrheg oddi wrth un o’r dosbarthiadau (yn yr Hitchhikers’ Guide to Learning Cymraeg, mae’n dweud taw’r ffordd gorau i blesio’ch tiwtor yw i siarad Cymraeg a’ch gilydd. Mae hyn yn hyfryd wrth gwrs (gweler uchod) ond mae ’na ffyrdd eraill i doddi calon eich tiwtor…). Erbyn hanner nos, o’n i’n dawnsio o gwmpas y gegin, a chanu fel Dusty Springfield farfog.

Roedd y dosbarth y bore ’ma yn… ddiddorol. Gan lwc, pwnc y driliau oedd ‘gwneud coffi’.

Ystrydebau hiliol, unrhywun?Yn y gêm

Yn y gêm chwarae rôl ar-lein Dark Age of Avalon mae gen ti ddewis o bedair hil o oes Arthur:

The people of Albion are a mostly homogenous [sic] lot – sturdy Britons, hulking Highlanders, graceful swift Saracens, and tall intelligent Avalonians make up the different races in the Realm.

Ydy sturdy‘r un peth â swarthy? Ac ydy Avalonian yr un peth ag Aryan?

Cyfarfod Cymuned a’r Cymgor

Cyfarfod da yn Aberaeron heno. Ni ddysgais i lawer am y sefyllfa tai yng Ngheredigion do’n i ddim yn gwybod o’r blaen, ond oedd hi’n braf i weld cymaint o bobl ’na yn erbyn cynlluniau drafft y cyngor sir, sy’n seiliedig ar y lol ’ma:

Mae gan Geredigion boblogaeth o ryw 71,000. Yn Ťl tueddiadauĚr gorffennol maeĚn debyg y bydd gan y Sir boblogaeth rhwng 80,000 a 85,000 erbyn 2016. Oherwydd y cynnydd bydd angen mwy o gartrefi. Yn Ťl y rhagamcanion o aelwydydd byddai angen tua 5,000 hyd 6,500 o gartrefi ychwanegol erbyn 2016. Yn Ťl y galw a welwyd yn y gorffennol byddai angen darparu rhagor na hanner y cartrefi newydd hyn (2,500 Ň 3,500) yn ardal Aberystwyth.

A chlywais i newyddion da personol oddi wrth ffrind. Llongyfarchiadau M&P.