Erbyn hyn, o’n i’n meddwl taw Google oedd yr unig wefan i adnabod gosodiad iaith cy mewn porwr gwe. Ond dw i newydd ymweld â gwefan y Weather Underground a ches i groeso yn Gymraeg, a theganau Cymraeg eu hiaith (gweler isod) i’w hychwanegu i’m gwefan.
Dyw hi ddim yn berffaith, mae ’na lawer o bethau sydd heb eu cyfieithu, ond ’sai digon o bobl yn ei defnyddio, ac yn ysgrifennu atyn nhw i ddweud bod nhw’n defnyddio’r iaith Gymraeg, tybed byddan nhw’n gwella y gwasanaeth?
Sut i newid y gosodiadau iaith ar eich porwr – mae’n gweithio gyda Internet Explorer 5+, ac Opera – dw i ddim yn gwybod am Netscape.
