Pwyll Pensevyk Dyved

Pwyll Pensevyk Dyved o arluth war seyth keverang Dyved. Hag ef ow tryga yn Arberth, y ben-lys, whans o dhodho mos helghya. An ran a’y dyr a vynna helghya o Glyn Cuch, ha’n nos-na ef eth war y hens a Arberth ha dos bys dhe Llwyn Diarwyd. Hag ena y fu an nos-na. Ha ternos, yn yowynkneth an jeth, sevel a wruk ha dos dhe Lyn Cuch, rak dyllo y gun y’n cos. Y whethas an corn ha dalleth an helva, ha holya y helgun, ha kelly y gescowetha. Hag ef ow colsowes orth lef y vagas-hel, y clewas lef nep bagas aral hag y nyns ens unlef, hag yth esens ow tos erbyn y vagas-ef.

Mwy.

Posted in Heb gategori | Tagged

Ymunwch â’r Tywydd DanddaearErbyn hyn,

Erbyn hyn, o’n i’n meddwl taw Google oedd yr unig wefan i adnabod gosodiad iaith cy mewn porwr gwe. Ond dw i newydd ymweld â gwefan y Weather Underground a ches i groeso yn Gymraeg, a theganau Cymraeg eu hiaith (gweler isod) i’w hychwanegu i’m gwefan.

Dyw hi ddim yn berffaith, mae ’na lawer o bethau sydd heb eu cyfieithu, ond ’sai digon o bobl yn ei defnyddio, ac yn ysgrifennu atyn nhw i ddweud bod nhw’n defnyddio’r iaith Gymraeg, tybed byddan nhw’n gwella y gwasanaeth?


Sut i newid y gosodiadau iaith ar eich porwr – mae’n gweithio gyda Internet Explorer 5+, ac Opera – dw i ddim yn gwybod am Netscape.

Saesneg – iaith y byd

Mewn erthygl yn yr Economist dadlir peth cwbl naturiol yw safle Saesneg fel iaith byd-eang. Dw i erioed wedi gweld gwell enghraifft o ffrwynau dall hanesyddol ynglyn â goruchafiaieth ieithyddol.

Dengys trafodaeth Metafilter bod llawer o bobl yn cytuno â honiadau’r erthygl, hyd yn oed os ydyn nhw’n meddwl bod hi’n drueni. Fe’m hatgoffwyd o darn gan Fishman:

It is in the very nature of mainstream life to be unknowingly provincial and self-centered (while ascribing such traits only to others, who are outside the mainstream), and, there, to interact primarily with its own members, or with former Xmen1 who have opted to become Ymen2 (or, at best, with self-styled Xmen-via-Yish) and, therefore, to be unfamiliar with or even totally ignorant of the Xmen-via-Xish pro-RLS views of and aspirations3. The first step along the long road to changing the views of Ymen (and of many, many Xmen too) is, therefore, an essentially permanent public information and education campaign…

1. Cymry, yn ein cydestun.
2. ‘Prydeinwyr’, Saesneg ei hiaith.
3. Ni wnaeth bodoliaeth Cymdeithas yr Iaith unrhyw argraff ar fy rhieni nes imi sôn amdani eleni – maen nhw’n byw yng Nghymru ers hanner canrif.

Dilyn cwcw’r mêl

Newydd ail-ddarganfod gweflog Raphael Carter: Honeyguide – casgliad cyfareddol o straeon am wyddoniaeth (yn enwedig bioleg a seryddiaeth) gyda llun digidol newydd bob wythnos gan Raphael. Ar hyn o bryd, arddurnir sgrîn fy nghyfrifiadur gan ei lun ‘cylionyn Mai gyda draen’.

(Os dydy hi ddim yn rhy hwyr i’w ofyn, hoffwn Nikon Cool Pix 990 i ’Dolig, plîs Siôn Corn. Dw i wedi bod yn dda.)

[via sylloge]

Pennawd yr wythnos?

Dw i’n ffan mawr o Newyddion Dyddiol Gwlad yr Iâ, papur newyddion ar-lein, un dudalen, Saesneg ei hiaith. Ddoe, oedd erthygl am yr effaith mae’r canolfannau siopau newydd yn cael ar y strydoedd siopau traddodiadol yn ReykjavÃk. Enw un o’r prif strydoedd yw Laugavegur, ac mae gyda nhw lun gyda’r capsiwn:

Not the nicest view of Laugavegur but the only picture we have.

Bendigedig.

Sut wyt ti’n ynganu ‘@’?

Yn ôl yr erthygl hon mae gan y Gymraeg rywbeth yn gyffredin â Ffrangeg, Eidaleg, Corëeg, Indoneseg ac Hebraeg: dyn ni gyd yn galw @ yn falwoden. Neu ydyn ni? Dw i erioed wedi defnyddio nick malwoden maesymorfa dot com wrth rhoi fy nghyfeiriad i rywun. Beth wyt ti’n dweud? A ddylen ni (gan ddilyn cyngor Molly, isod) ddefnyddio termau felly, hyd yn oed pan bydd angen eu hesbonio nhw, neu eu cyfieithu hyd yn oed, wrth siarad a Chymry eraill?

[via nutlog, eto]