Gweflogiau: hanes byr. Cyflwyniad da at hanes datblygiad y weflog fodern, oddi wrth un arall o’m hoff gyfranwyr Metafilter.
Archifau Misol: Tachwedd 2001
Diwrnod Heb Brynu
24ain Tachwedd 2001 – cymryd rhan gan beidio cymryd rhan!
Tolkien yn y LRB
Erthygl ddiddorol (ac yn hir) am Tolkien yn y London Review of Books.
Nid Cawl yw Waeguk
Nid Cawl yw Waeguk – gweflog gan un o’m hoff gyfranwyr Metafilter. Mae Stavros/Bosco yn byw yn Ne Korea, ac mae e’n sgwennu am ei wlad fabwysiedig gyda chymysgedd egnïol o hiwmor, casineb a Jack Daniels. Gwerth ei ddarllen, ond nid i’r gwangalon.
Beth sy’n bod arnyn nhw?
Mae Sir Gâr yn wneud yr un peth ’to.
Shamanaidd Arwynebol
Nos Sadwrn, adeiladais i dân yn y stafell ffrynt a setlais i lawr i wylio Derwyddion – Byd y Shaman ar S4C. Syndod mawr (not), oedd y rhaglen yn rwtsh arwynebol ar y cyfan, a ddysgais bron ddim byd diddorol ond y ffaith bod Dai the Drop yn gweithio fel rhyw fath o iachwr oes newydd y dyddiau hyn.
Am well gyflwyniad at shamanyddion y byd modern, dyma rhestr o erthyglau am entheogens (nawr, dyna gair sy ddim yn ymddangos yng Ngeiriadur Bruce) o’r weflog abuddhas memes.
Zeit Für Tubby Kille Kille?
Eh? Oh!
Chop socky
Ffordd y ffon – paid rhoi clec ar y dolen ’na oni bai bod lot o amser ’da ti i wastraffu.
[via #usr/bin/girl]
Palude blog
Wrth bori trwy’r rhestr atgyfeiriadau, des i ar draws tyst bod rhywun wedi trïal cyfieithu MorfaBlog i’r Eideleg, heb lawer o lwyddiant. Dylen nhw fod wedi trïal cyfieithu y versione inglese, falle.
Gofalu am y pethau bychain
Faint sydd ynddo fe? Sawl pecyn bach o sos coch allwch chi roi mewn un botel blastic Heinz? Ac yn y blaen.
[via metafilter]
Jiggity Jig
Newydd cyrraedd adre ar ôl trip ardderchog i’r Gogledd. ‘Sdim amser ’da fi sgwennu nawr, ond hoffwn ddweud ‘helo’ wrth Eileen, a diolch iddi hi am ddweud wrth rhestr postio Clwb Malu Cachu am y cwrs undydd.
Bant i’r Plas
Dyn ni’n bant i’r gogledd mewn sbel. Aroswn yn Mlaenau Ffestiniog heno (gobeithio bydd amser ’da ni i ymweld â siop lyfrau’r Hen Bost a chartref olaf John Cowper Powys). Dydd Sadwrn awn ni i gwrs un dydd ym Mlas Tan y Bwlch, cwrs Llafar Gwlad.
Ceiriog Geiriog
Dw i newydd ddod ar draws archifau fy hen flog Saesneg ei hiaith. Wedi ychwanegu y pedwar mis – Ionawr – Ebrill 2001 – i’r archif ar eich chwith (fy ne innau). Dechreuais i flogio ar Nos Galan 2000 – does dim bywyd ’da fi, nag oes?
Lluniau cefndiroedd
Lluniau cefndiroedd i’ch cyfrifiadur. Dw i’n defnyddio hwn ar hyn o bryd.
Cestyll tywod y tylwyth teg
Zippy
Ydyn ni’n cael hwyl eto? – dw i heb weld Zippy ers talwm.
Wrth meddwl am Zippy, ro’n i’n tybio a oedd cysylltiad Cymreig rhywle ym myd afreal Bill Griffith (ar wahan â’i enw, wrth reswm). Wedyn, welais i strip heddiw yn y SF Gate – (’sdim paraddolen – copi fan hyn).
What’s Welsh For Zen
What’s Welsh For Zen – lluniau gan Dave McKean i lyfr John Cale. Os dych chi’n lico stwff McKean, triwch onetwentyeight hefyd.
Via metafilter.
Tynged yr Iaith
Tynged yr Iaith – testun cyflawn i ddarlith hanesyddol Saunders Lewis. (Fformat pdf – angen darllenydd Acrobat. Neu mae fersiwn HTML hefyd)
Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw. Trwy ddulliau chwyldro yn unig mae llwyddo…
Neithiwr
Neithiwr, ces i e-bost oddi wrth y ferch dlysaf yn yr ysgol; dwedodd hi I wish I was you. Doedd dim syniad ’da fi am beth oedd hi’n sôn.
Neithiwr, yfais hanner potel o Jack Daniels a threuliais chwech awr gan chwarae NetHack, gêm Dungeons & Dragons o Oesoedd Tywyll y rhyngrwyd. Yn fuan, bydda i’n dri deg pump oed.
Es i’r gwely, ac yn oriau man y bore darllenais i:
The world is charged with the grandeur of God.
It will flame out, like shining from shook foil;
It gathers to a greatness, like the ooze of oil
Crushed. Why do men then now not reck his rod?
Generations have trod, have trod, have trod;
And all is seared with trade; bleared, smeared with toil;
And wears man’s smudge and shares man’s smell: the soil
Is bare now, nor can foot feel, being shod.And for all this, nature is never spent;
There lives the dearest freshness deep down things;
And though the last lights off the black West went
Oh, morning, at the brown brink eastward, springs —
Because the Holy Ghost over the bent
World broods with warm breast and with ah! bright wings.
Gerald Manley Hopkins
Mae fy llygaid yn sych, bleared, smeared gan y sgrîn anobeithiol bach ’ma. Rhaid gweithio yn yr ardd y bore ’ma.
Wps
Does neb yn berffaith.
The King of Swaziland, bowing to pressure from angry young women, has fined himself a cow for violating a chastity vow he imposed on the rest of the country.






