Ffeirws Newydd

Mae ’na ffeirws newydd yn mynd o gwmpas, a dw i wedi ei ddal. Mae’n broblem os dych chi’n defnyddio Internet Explorer ac Outlook Express, felly dw i wedi troi yn ôl i Opera.

Yr unig broblem nawr yw Blogger. Does dim cefnogaeth i Opera, a dyw rhan fwya o bethau handi sy’n gweithio gyda IE5 ddim yn gweithio gyda’r porydd ’ma. (Ac mae MorfaBlog yn edrych yn warthus – rhyw broblem gyda’r CSS, dw i’n meddwl.)

Sut i beidio cyfieithu gwefan

National Assembly for Wales: Healthplanonline – credwch neu beidio, mae’r ddolen honna yn anelu at dudalen Gymraeg ei hiaith, er fod y llabed <title>, bob llabed <meta>, sawl llabed <alt> a hyd yn oed enw’r ffeil ei hunan yn uniaith Saesneg. Dw i’n hoff iawn o’r linc ‘Saesneg’ gyda’r testun <alt> sy’n dweud ‘Cymraeg’. Darllen heb ddarluniau? Tyff.

Tai, Gwaith ac Iaith

Ddoe, fe brynais Tai, Gwaith ac Iaith, argymhellion Cymuned i Arolwg y Cynulliad o’r Iaith Gymraeg. Wedyn, casglais i lyfr o’n i wedi ei archebu misoedd yn ôl o’r llyfrgell, Reversing Language Shift gan Joshua Shipman.

Braf gweld, wrth ddarllen y peth gan Simon Brooks (Cymuned), ei fod e wedi darllen y peth gan Shipman.

Honna Fishman yr adferir iaith leifrifol trwy sefydlogi cymunedau ieithyddol; gan eu diffinio fel y cwlwm rhwng aelwyd, teulu a chymdogaeth. Oherwydd bod hyn yn dasg anodd, ceir tuedd weithiau gan ymgyrchwyr iaith i bwyso am fuddugoliaeth sy’n haws eu cyrraedd, megis darpariaeth yn yr iaith leiafrifol mewn llywodraeth, y cyfryngau ac ym maes statws cyhoeddus.

Pwysleisia Fishman na allai’r rhain fyth gymryd lle y gymuned ieithyddol naturiol.

O ymhwyso dadansoddiad Fishman i Gymru, gellir gweld mai hanes y mudiad iaith fu pwyso am fuddugoliaethau corfforaethol neu ‘symbolaidd’ megis arwyddion ffyrdd dwyieithog, S4C a Deddf Iaith Newydd, yn hytrach na gwarchod ac amddiffyn sail tirogaethol cymunedau naturiol Cymraeg.

O hyn ymlaen, bydd eisiau gwneud gwarchod y cymunedau naturiol Cymraeg sy’n weddill yn brif nod ein hymdrechion i adfer y Gymraeg os yw’r iaith i fyw.

A dyma difyniad o wynebddalen llyfr Fishman:

When one significant section of the community burns with the sense of injustice, the rest of the community cannot safely pretend that there is no reason for their discontent.

Cyflwyniad CMC

Just enough Welsh to impress – cylflwyniad at yr hen iaith gan Lewis Malu Cachu:

If your host has accidentally used gravy powder instead of tea and you find yourself gagging in disgust, you might be asked Beth sy’n bod? / What’s the matter? You can always evade answering by saying O, dim byd / Oh, nothing. If you’re feeling cruel, though, try Mae’r te ma’n ofnadwy / This tea is awful.

Neis iawn.