Gwirydd sillafu Microsoft

Cyhoeddi gwirydd sillafu Microsoft yn Gymraeg – stori BBC. Dim ond gyda Office XP bydd hyn yn gweithio, mae’n debyg, ond mae’n can yn y cyfeiriad iawn tuag at normaleiddio’r iaith yn y byd gwybodaeth technoleg. Ond mae ’na rywbeth dw i ddim yn ei ddeall:

O stori BBC:

“Mae’r gwirydd sillafu a chysylltnodydd yn sicrhau fod defnyddwyr PC ym mhob rhan o’r byd yn gallu gwirio’u Cymraeg yn rhad ac am ddim o hyn ymlaen, diolch i gydweithredu agos rhwng y Bwrdd, Canolfan Bedwyr a chwmni Microsoft,” ychwanegodd.

O wefan Microsoft:

The estimated retail price for the Proofing Tools for Office XP CD is $79.95 US.

Ydw i’n colli rhywbeth fan hyn?

Apology Aberystwyth

Apology

Yn anffodus nid oes copi Cymraeg o’r tudalennau hyn ar gael ar hyn o bryd.

A fyddech cystal â defnyddio’r botwm English ar y porwr er mwyn mynd nôl i’r dudalen Saesneg.

Mynd nôl? Sa i wedi gweld y tudalen Saesneg a does dim lot o ddiddordeb ’da fi, dweud y gwir.

Dych chi erioed wedi gweld tudalen “Apology” fel hyn sy’n ymddirheuro nid yw’r fersiwn Saesneg ar gael?

Eric Kissane ar deipograffiaeth

Erthygl dda am deipograffiaeth ar y we yn y rhifyn newydd A List Apart.

Wrth sgwennu ar y flog ’ma, dw i’n teipio pethau fel “â” (i wneud â) bob dydd ond, fel arfer, dw i’n anghofio am y collnodau a dyfynodau cyrliog sy’n helpu wneud testun ar wefannau yn fwy darllenadwy.

Ydyn nhw’n helpu? Ydy “hyn” yn edrych yn well na “hyn”? Ydy hi’n wir taw yn y manylion mae Duw yn byw ? Neu ydw i’n mynd bach yn rhy refrol?

Ac yn fwy pwysig byth, fydda i’n cael llawer mwy o ymwelwyr yma trwy gor-ddefnyddio geiriau fel rhefrol a chontiau yn fy sylwadau? Gawn ni weld.

Canlyniadau

Ces i ganlyniadau cyntaf o’r Brifysgol ddoe. Sgorais 20 allan o 20 ar ymarfer treigladau, a 18 o 20 ar droi brawddegau i’r iaith safonol. Paid â chwerthin yn y cefn; treuliais i lot o amser arnyn nhw – sori, arnynt.

Dwedais i wrth fy mam ar y ffôn neithiwr. Gofynodd hi pam na ches i ganlyniadau mor dda amser nes i radd y tro cyntaf (yn Nhreforys, 1987-90). Un reswm posibl: oedd bywyd cymdeithasol ’da fi pan o’n i’n stiwdent ifanc. Nes i ddim ffeindio llyfrgell y Polytechnig tan mis Tachwedd. Ond oedd staff i gyd yn yr undeb yn fy nabod i.

Reswm arall: y tro ’ma mae diddordeb go iawn yn y pwnc mod i’n ei astudio. Oedd rhai o’m gyrsiau yn y Poly yn ddigon diddorol, a rhai o’r athrawon yn arddechog, ond, ar y cyfan, dewisais i gyrsiau achos oedd fy ffrindiau yn eu wneud, neu achos do’n nhw ddim yn swnio yn rhy anodd.

Tro ’ma, dw i’n trïal cael gafael ar bobeth sydd ar fy rhestr darllen a stwff ychwanegol hefyd. Swot merchetaidd, neu beth?

Rali bach

Rali bach yn Aberystwyth y bore ’ma. Edrych ymlaen at weld lluniau o Angharad Tomos a fi ar yr un protest.

*yikes*

Dw i ddim yn teimlo cweit yn gartrefol ar brotestiadau Cymdeithas yr Iaith, er mod i’n cytuno â’r galw am Ddeddf Eiddo. Wastad yn gweld pethau o tu mas ydw i, trial darllen gwefusau’r heddweision (“Hei, mae’r boi ’na’n stico posteri ar ffenestri Swyddfa’r Cyngor. Ddylen ni ei arestio neu rywbeth?”) yn lle gwrando ar yr areithiau.

Wedi’r protest, fe es i lyfrgell y Brifysgol i gael gafael ar erthyglau ambyti barddoniaeth Gerallt Lloyd Owen. Mae ‘na gymaint o dwll rhwng y gweledigaeth sy ’da ni oddi wrth ein beirdd (ac ein cantorion, wrth gwrs) a beth sy’n digwydd ar y strydoedd. Nid ar bobl dafod y ddraig mae bai am hynny, wrth reswm – maen nhw’n neud llawer mwy na’r rhan fwya ohonon ni.

Ach. Jyst teimlo bach yn isel. Dylwn ni ymweld â’r dysgwyr yn 1142.

Malu Cachu ar y teledu

Os diddordeb ’da chi mewn bod ar y teledu? Mae Cwmni Hon am wneud rhaglen am y wefan Clwb Malu Cachu ac maen nhw’n moyn dysgwraig (neu ddysgwr, maen nhw’n mynd yn ddesperet!) sy wedi defnyddio’r safle ac sy’n fodlon i ymddangos ar S4C Digidol. Byddan nhw’n ffilmio yn Llambed dydd Iau nesa.

Os oes diddordeb, cysylltwch â Catrin Mears.

Papur Dyddiol Cymraeg?

Papur Dyddiol Cymraeg?

Neges oddi wrth Mercator:

Ers dechrau mis Awst 2001 bu Canolfan Mercator ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth o dan oruchwyliaeth Ned Thomas yn gweithio ar gynllun ymchwil i weld sut orau y gellir sefydlu a chynnal papur newydd dyddiol Cymraeg. Cafwyd nawdd gan y Comisiwn Ewropeaidd, Awdurdod Datblygu Cymru a Phwyllgor Cymru Biwro yr Ieithoedd Llai. Ein bwriad yw paratoi cynllun ymarferol a gweld ei wireddu ond, i sicrhau hynny, mae’n rhaid ymgynghori’n eang a chydweithio tuag at y nod.

Os ydych am fynegi barn am yr hyn a fyddech yn hoffu gweld mewn papur o’r fath mae’n bosib cwblhau holiadur y prosiect ar ein safle we.