::glosses.net:: – gweflog gan myfyriwr/wraig ieithoedd. So’r wefan yn llwytho i fi ar hyn o bryd, ond hoffwn i weld mwy o stwff fel hyn am y Mabinogi.
Monthly Archives: Hydref 2001
Briwgic
Heno, dw i’n ceisio darllen Gweith Gwen Ystrad gan Taliesin. Bob gair yn gyfrinach i fi, ond bydd y gwaith yn talu.
Gweleis wyr gwychyr yn llyud.
A gwedy boregat briwgic.
Cymraeg a mathematig
Sa i’n cofio os ydw i wedi blogio’r stori hon o’r blaen, ond mae’n debyg bod siarad Cymraeg yn helpu plant gyda mathemateg:
While “ten”, “twenty” and “thirty” in English tell us little about their relative value, the Welsh names do. “Deg”, “Dau Ddeg” and “Tri deg”, indicate “ten”, “two-ten” and “three-ten”, in the same way that “Tri deg dau” (32) and “un deg tri” (13) explain their values through their names. To learn the names of numbers in Welsh, you have to learn the numbers for one to ten and the rules for combining them.
Posibilrwydd arall, wrth gwrs, yw bod addysg dwyieithog yn helpu plant yn gyffredinol gan ddatblygu eu sgiliau deongliadol. Dw i ddim yn gwybod: beth wyt ti’n feddwl?
Deg Cân Leonard Cohen
Mae albym newydd ’da Leonard Cohen? Does neb yn dweud dim byd wrtha i.
Daypop
Newydd ychwanegu bwlch chwilio Daypop (lawr ar waelod y dudalen) ar ôl ffindio’r ddau stori isod trwyddo fe.
Band llydan i Gymru
Newyddion da i’r rhai ohonom sy’n breuddwydio am fynediad cyflym i’r we: £18.5 miliwn i hybu llydanfand yng Nghymru. Dyma’r datganiad i’r wasg o’r Cynulliad.
National Geographic a dysgu Cymraeg
Erthygl o’r National Geographic am ddysgu Cymraeg yng Nghaerdydd:
Welsh is a guttural language, and for us it meant doing things with our uvulas we had never done before. “You need to drink lots of coffee,” Carole added encouragingly, “to get the spit going in your mouth.”
Orthograffi ieithoedd America
Darn bach yn Linesandsplines sy’n sôn am orthograffi ieithoedd brodorol America:
If I remember right, many writing systems were imposed on tribes by European missionaries, mostly in the nineteenth century. Bringhurst said that the mid-1800s were the heyday for devising new alphabets (novel sets of symbols, not new fonts) and so the Native American languages provided many opportunities for this sort of stuff.
Y Wennol
Y Wennol – straeon ac adnoddau eraill ar gyfer dysgwyr.
Diolch i Chris Castle am fy atgoffa am hyn.
Lego a’r Maori
Stori diddorol o’r BBC am ymdrechion cwmni teganau Lego i atal trychineb cysylltiadau cyhoeddus. Yn eu gêm uwch-dechnoleg newydd, Bionicle, mae Lego wedi dwyn enwau Polynesaidd (gan gynnwys Tohunga, sy’n golygu iachäwr brodorol) am eu harwyr robotaidd plastig.
Maen nhw’n cael eu herio gan Maui Solomon, cyfreithwr sy’n arbenigo mewn hawliau eiddio deallusol ac hawliau a rhwymedigaethau pobl brodorol.
Termau’r Rhwyd
Cyfieithiadau o dermau y Rhwyd – oedd rhywun yn dweud wrtha i ddoe does dim sôn am ”gwefan“ yn y ail-argraffiad Geiriadur Yr Academi. Dyma rhestr gan Dafydd (fydd.org), ac eraill.
Llais Ogwan
Llais Ogwan – Papur Bro Dyffryn Ogwen – ond ddim wedi cael ei ddiweddaru ers mis Hydref 2000. Oes ’na bapur bro ar lein ar hyn o bryd?
Seicedelia yn dy gwrw
Seicedelia yn dy gwrw – daeth y llun uchod o oriel “cwrw dan y microscop”. Anhygoel. Fyddai i byth yn edrych yn fy ngwydr yn yr un ffordd ‘to.
via swishcottage
‘Only Welsh speakers are truly Welsh’
Iaith:Ysgolhaig yn tanio’r drafodaeth – stori BBC. Mwy o fanylion yma, yn erthygl Saesneg ei hiaith sy’n ychwanegu pethau fel “Less than 20% of the population in Wales speaks the language”. A beth mae hynny’n golygu yn y cyd-destun ’ma?
BlogBack
Newydd dod ar draws system trafodaeth arall sy’n edrych bach yn well na’r un dw i’n ei ddefnyddio, pan sylweddolais i dyw e ddim yn eich gadael chi rhoi dolenni yn eich sylwadau. Felly, er bod neb wedi defnyddio fe ers mis neu fwy, Reblogger amdani o hyd.
Cernyweg yn Rwsieg
ݲ�ó��� ���� – tudalen (yn Rwsieg) sy’n sôn am Gernyweg.
Cambrian Organics
Dau o’r dysgwyr yn nosbarth Wlpan, Llangrannog yw Lizzie a Mick Shaw, Pant-gwyn, Tanygroes. Maen nhw’n aelodau Cambrian Organics, grwp newydd sy’n cynhyrchu a dosbarthu cig organig o Orllewin Cymru i’r byd a’r bettws.
Archifau MorfaBlog
Wyres Dave a Mollie
Llongyfarchiadau i Dave a Mollie a chroeso i’r byd Mara fach.
Ieithoedd Brodorol yn Arizona
Dysgu Ieithoedd Brodorol – gwefan o Brifysgol Gogledd Arizona i’r rhai sy gyda diddordeb mewn ieithoedd brodorol. Llwyth o ddolenni diddorol ac erthyglau fel hyn sy’n sôn am diwylliant a chymuned Hopi:
…language instruction is a community effort; it cannot be left to the formal teachers alone. Hopi must be spoken in the homes, kivas, plazas and all other public places. Children must have a reason to speak it and everyone must be involved.
via rhestr postio ELL


