Pibau Pencader

Fe aethon ni i Ŵyl Pibau Pencader neithiwr. Bendigedig. Pibwyr o Gymru (Ceri Rhys Matthews), Iwerddon (Néillidh Mulligan), Northymbria (Alistair Anderson) a Llydaw (Gwelloc’h). Roedd Gwelloc’h yn wych, tri brawd ifanc yn chwarae speed metal ond gyda pibau nid gitarau. Cyflwynwyd un cân yn dawel iawn fel hyn: This is the fastest dance in Britanny.

CDs o’r Dinasoedd

Yn Abertawe a Chaerdydd dydd Sadwrn diwetha, fe waries i lawer gormod o arian ar CDiau rhad. Hen stwff fel Love, Cream, Leonard Cohen a Capt. Beefheart, stwff mwy cyfamserol fel Beck, Aphex Twin ac yr Orb ac casgliad gan fy hoff band Saesneg ar y foment, Grandaddy. Mae un gân, Fentry, gyda clip sain o ffilm o’r enw “Tomorrow“, sy’n swnio yn wych (fel maen nhw’n dweud ar y clawr a nearly perfect movie made in the 70′s). Sa i wedi ei gweld, dyw hi ddim ar gael ar fideo.