Chomsky a Creu Caniatâd

Cyfweliad â Noam Chomsky sy’n sôn am y cyfryngau, “creu caniatâd” ac y ffordd mae Osama bin Ladin wedi cael ei droi yn fwystfil:

It is much easier to personalize the enemy, identified as the symbol of ultimate evil, than to seek to understand what lies behind major atrocities. And there are, naturally, very strong temptations to ignore one’s own role — which in this case, is not difficult to unearth, and indeed is familiar to everyone who has any familiarity with the region and its recent history.

Jeffrey Zeldman ar 9/11

Erthygl gan Jeffrey Zeldman:

Suddenly pop culture looks like excrement smeared by a mental patient.

Of course it always did. But suddenly the shallowness feels shameful. Am I the only one who feels this way? What dream have we been living in?

Somehow in my pursuit of happiness I failed to notice that children were dying in Iraq.

Somehow when car bombs exploded in London, or gunfire ripped the West Bank, I felt a moment of sorrow and disbelief, then went about my business – never realizing that love was my business, the world was my business.

We use love to sell mouthwash.

Llythyr oddi wrth Afghani-Americanaidd

Llythyr oddi wrth Afghani-Americanaidd.

We come now to the question of bombing Afghanistan back to the Stone Age. Trouble is, that’s been done. The Soviets took care of it already. Make the Afghans suffer? They’re already suffering. Level their houses? Done. Turn their schools into piles of rubble? Done. Eradicate their hospitals? Done. Destroy their infrastructure? Cut them off from medicine and health care? Too late. Someone already did all that.

Cymdeithas D.J.

Cynhadledd Cymdeithas D.J. yng Nghaerdydd dydd Gwener.

Mikel Irujo a fydd yn annerch Cymdeithas DJ yn ei chyfarfod nesaf. Mikel Irujo a fu’n gyfrifol am lunio polisïau ieithyddol diweddar llywodraeth Gwlad y Basg ac fe fydd yn trafod sut y mae codi heniaith yn ei hôl.

Cadeirydd y cyfarfod fydd Robert Hughes. Ef oedd ymgeisydd y Blaid ym Merthyr Tudful yn yr Etholiad Cyffredinol, lle y cynyddodd canran pleidlais y Blaid yn sylweddol iawn.

Cynhelir y cyfarfod yn Neuadd Dewi Sant (ardal 1, 5ed llawr) yng Nghaerdydd am 5.00 ddydd Gwener 21 Medi.

Bydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael.

Rali Caerdydd

Pan o’n i yng Nghaerdydd dros y penwythnos, es i i Rali Glyndwr Cymdeithas yr Iaith. Braf i weld cymaint o bobl na (yn enwedig ar ôl turnout braidd yn siomedig yng Nghrymych wythnos diwetha).

Chwaraeodd Pep le Pew a gwrandawon ni ar areithiau gan Dafydd Iwan, Sian Howys ac eraill – gan gynnwys Ffred Ffransis, wedi ymprydio am wythnos er mwyn symboleiddio’r argyfwng a gwendid ein cymunedau Cymraeg a dangos parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb o gario baich y frwydr ein hunain. Wedyn, fe aethon ni i gyd i sefyll yn y twll ble fydd y Cynulliad newydd yn cael ei adeiladu. Falle. Un dydd.

Ar ôl y gweithgaredd hwnnw (gyda’i symbolaeth amwys: dyma ni Gymry, sefyll mewn twll mawr…), nôl â ni i’r llwyfan am fwy o Pep le Pew a set gan y Tystion. Yn anffodus, oedd yr hen bobl a lot fawr o’r bobl ifainc wedi gadael, ac oedd dim ond rhyw ddeg ar hugain ar ôl pan bennodd Tystion un o’u caneuon gyda geiriau Bill Hicks ambytu “sugnwyr cala Satan”.

Drueni. Hwnna oedd uchelbwynt y diwrnod.

Robyn Hitchcock ac H.P. Lovecraft:

Robyn Hitchcock ac H.P. Lovecraft: y cysylltiad Cymraeg

Myy anddyyfth. Anna y llywellyn, “Lovecraft?” Ia Ia Qyddulhu! Ia Ia Shybb Mniggurraddh! Robbynn Hiddgcogh y llwedddi nwn arrafwll ar pwll! Ysgarth myffl wyfflspiffl IODOT wyll myceni gorinki goo? Y “Helen Pyrcifyll” ac henna gwr pawb “Glas Fllysh?” Draig boin oingo pen wyf: Noof! Narc Glocyster y Ybberi Sharc? Hew! Noof, glas noof!

Ydy hi’n dymor y madarch hud yn barod?

Madoc, Myth a Paul Muldoon

Wrth darllen cadwyn trafod Metafilter sy’n sôn am Columbus a’r “darganfod” America, es i ffeindio tudalennau gwe am y Myth Madoc. Fe ffeindiais i ddwy erthygl ddiddorol am gerdd Saesneg gan Paul Muldoon – Madoc: a Mystery. Un gyda’r teitl Penguins, Welsh Indians and Talking Horses: The Treatment of Colonialism in Paul Muldoon’s Madoc ac un ferrach o’r enw Remapping America.

Bread and Roses – Ken Loach

Fe aethon ni i’r sinema neithiwr i weld ffilm newydd Ken Loach, Bread and Roses, ffilm gyntaf tymor newydd Cymdeithas Ffilm Theatr Mwldan. Ffilm dda iawn, gyda phob cryfder a gwendid arferol Ken Loach (oedd hi’n debyg iawn i’w ffilm am Ryfel Cartre Sbaen, Land and Freedom).

Fel arfer, oedd ffurflen o’r Cymdeithas yn gofyn am ein ymateb i’r ffilm a fel arfer, oedd y ffurflen yn uniaith Saesneg. Difynnais i linell o’r ffilm ar fy ffurflen, a daeth mewn cân Sbaeneg ei hiaith am brofiadau gweithwyr mewnfudol o Fecsico sy’n gweithio’n glanhau blociau swyddfeydd Los Angeles. Y cyfieithiad yn y is-teitlau oedd:

I had to learn this damned English;
I had no choice.

Yr un profiad a gafodd ein teidiau. Lwcus bod dewis ’da ni erbyn hyn, ond dyw hi?