Nicyrs i Tom Jones
Nicyrs i Tom Jones ond nid i Frank Hennessey yn Dubai.
Llyfrgell Owen: Llyfrgell Testunau Cymraeg.
Llyfrgell Owen: Llyfrgell Testunau Cymraeg.
Ro’n i wedi anghofio am
Ro’n i wedi anghofio am afon ceiriog.
Wyt ti’n teimlo’n nauseous?i love
Wyt ti’n teimlo’n nauseous?
i love the fact that the cash machines in england aren’t bilingual like they are in wales. no more cymraeg for me, mate.
Mae llyfr gwestion gan Simon, gyda llaw.
Golygfeydd Iaith gan Bobl Brodorol
Golygfeydd Iaith gan Bobl Brodorol a Lleiafrifol wedi’u casglu gan Terralingua. Gyda cyfraniadau oddi wrth pobl brodorol Gogledd America, Awstralia, Gogledd Ewrop a Chymru. Nid jyst yng Nghymru oedd y Welsh Not yn cael ei ddefnyddio.
Puteindra Diwylliannol yn Hawai’i.While this
Puteindra Diwylliannol yn Hawai’i.
While this propaganda is churned out to local residents, the commercialization of Hawaiian culture proceeds with calls for more sensitive marketing of our Native values and practices. After all, a prostitute is only as good as her income-producing talents. These talents, in Hawaiian terms, are the hula, our dance; our generosity, or aloha; the u’i or youthful beauty of our women and men; and the continuing allure of our lands and waters, that is, of our place, Hawai’i.
Swnio’n gyfarwydd?
Wedi bod yn siarad â’m
Wedi bod yn siarad â’m ffrind Maff am normaleiddiad ieithyddol: syniad anodd iddo fe, fel Saes uniaith i’w ddeall. Wrth trafod y peth gyda fe (a chwarae teg iddo, faint o Saeson sydd gyda diddordeb yn y fath peth?) roedd rhaid i mi feddwl yn ddyfnach.
Un peth sy’n holl bwysig, yw’r angen i weithio mewn cyd-destun rhyngwladol ac i beidio bod yn ynysol: does dim byd arbennig i’n sefyllfa yng Nghymru.
Mae’r erthygl hon yn sôn am y ffordd mae’r we wedi datblygu fel ffenomen amlieithog. Mae ‘na lot yn yr erthygl dw i ddim yn cytuno â fe, ond mae hyn yn taro tant:
Until a critical mass of internet penetration in a country builds up, and a corresponding mass of content exists in the local language, the motivation to switch from English-language sites will be limited to those for whom issues of identity outweigh issues of information.
Yma yng Nghymru, dyn ni’n gwastraffu egni ar gwyno bod Yahoo yn gwbl Saesneg neu bod angen diweddiad dot cym cyn i ni ddechrau creu’r we Gymraeg.
Mae hyn yn warthus. Dych chi moyn pori’r we yn y Gymraeg? Llwytho Opera a’i phecyn ieithoedd Celtaidd. Dych chi moyn ymchwilio’r we yn y Gymraeg? Defnyddiwch Google Cymraeg. Dych chi mo’yn cynnwys, annibynnol, anfasnachol. Creuwch fe eich hunain! Mae ‘na degau o filoedd o bobl yn defnyddio Blogger ond, am wn i, dim ond un person sy’n cadw gwe-flog Cymraeg ei hiaith. Y cwyn o’r sîn blogio’n Saesneg yw bod popeth yn rhy losgachol, gyda phawb yn cyplysu eu blogiau â blogiau eu ffrindiau a neb yn dweud unrhywbeth newydd. Rhaid bod y sîn blogio’n Gymraeg yr un mwya mastyrbaidd ar y we!
</rhefru>
Disgrifiad o gwrs mewn Linguistic
Disgrifiad o gwrs mewn Linguistic Diversity and Inequality yng Ngholeg Cymunedol Metropolitan, Omaha, Nebraska. Mae’r cwrs yn edrych yn wych, ond ddim yn debyg byddai’n bosib i’w wneud o fan hyn. Beth sy yn ddefnyddiol yw’r rhestrau adnoddau i gyd-fynd â’r cwrs. Mae tudalen yn cynnwys llyfryddiaeth, rhestr o gynodolion, a chasgliad o gysylltiadau gwe. Digon i’w ddarllen, ‘te.
Dyma rhywbeth i gnoi cil
Dyma rhywbeth i gnoi cil drosto, sylwadau Cynog Dafis ar y gair cymuned:
Petai Raymond Williams yn sgrifennu yn y Gymraeg, nid wyf yn credu y byddai e wedi oedi’n hir gyda’r gair cymuned. Fel y gair cyfrifiadur, nid yw’r gair cymuned yn ymddangos o gwbl yng nghyfrol gyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru. Nid oedd cyfrifiaduron yn bodoli ryw lawer yn y 50au pan gyhoeddwyd y rhannau o’r Geiriau sy’n ymdrin í geiriau yn dechrau gyda’r llythyren ‘C’. Ond nid felly gymunedau! Y gwir yw mai dim ond yn ddiweddarach y teimlwyd fod angen yn y Gymraeg air oedd yn cyfleu’r gair Saesneg community yn ei ystyr fwyaf haniaethol, a mwyaf arwynebol hefyd efallai. Mae yna wers i ni Gymry dwyieithog yma. Beth ydyw’r gair cymuned mewn gwirionedd? Dim mwy na glŽs prennaidd ar y gair Saesneg - enghraifft o’r perygl, wrth inni geisio trafod syniadau deallusol yn y Gymraeg, i’r iaith ddirywio’n ddim mwy nag adlewyrchiad gwan o’r Saesneg. A hynny am ein bod yn teimlo’n rhy aml fod angen union gyfatebiaeth rhwng cysyniad gwreiddiol yn Saesneg a chysyniad yn Gymraeg. Dyna cymuned i chi felly, gair heb hanes, gair heb fawr o rin.
Ar gael yn Saesneg, hefyd.
Newydd tanysgrifio i’r cylchgrawn Planet
Newydd tanysgrifio i’r cylchgrawn Planet a derbynais rhifyn 148 y bore ‘ma.
Llawn o stwff da, fel arfer: cyfweliad â’r arlunydd tirlun o Sir Benfro, Linda Norris; detholiadau o ‘waith ar droed’ Peter Finch, Cardiff Mix; dwy erthygl ar ‘ddadl y dyfodol’, un gan Ned Thomas ar sensoriaeth gweidyddol yn Ein Cynulliad Ni, a’r lleill gan Mike Parker, Saes a gyd-ysgrifenodd The Rough Guide to Wales ac sy’n neud pwynt da iawn, gwerth ei gofio:
Perhaps now that the general election is out of the way, and politicians are off the short lead, such a debate can continue in a more calm and sober manner. I’m not, however, optimistic about that, given the glaring limitations in media analysis both in Wales and beyond. The supreme irony here is that, being English, I have a much greater freedom to say these things than have Welsh politicians and commentators. While I could only be seen as a small-time ‘traitor’ to my own, the spectre of racism hangs over people like Seimon Glyn who are watching their culture haemorrhage and die. That, in itself, says much about how loaded the dice are, and in whose favour.
Ydy pobl sy’n siarad Saesneg
Ydy pobl sy’n siarad Saesneg yn fwy debyg i ddiodde o asthma? Neu ydy’r Torygraph jyst yn desperet am newyddion? Dw i lico’r syniad bod siarad Cymraeg yn gallu bod yn amddiffyniad rhag diffyg anadl, ond dyw hi ddim yn swnio’n debyg.
[via fark]
Mae’r Onion yn ôl, ac
Mae’r Onion yn ôl, ac yn well nag erioed. Perffaith.
Ymateb i Argyfwng ein Pobl
Ymateb i Argyfwng ein Pobl
Daeth y canlyn o erthygl gan Gwyn Edwards yn Y Faner Newydd, Hydref 2001. Geiriau un o Henaduriaid yr Hopi ydyn nhw. (Pwyslais fel yn yr erthygl wreiddiol.)
‘Rydych chi i gyd wedi bod yn dweud wrth y bobl mai dyma’r Unfed Awr ar Ddeg, nawr rhaid i chi fynd yn ôl a dweud wrth y bobl mai dyma’r Awr. Ac mae yna bethau i’w hystyried.
Ble rydych chi’n byw?
Beth ydych chi’n ei wneud?
Beth yw eich perthynas ag eraill?
A ydych yn y berthynas iawn?
Ble mae eich dwr?
Byddwch yn garfarwydd â’ch gardd.
Mae’n amser i lefaru eich Gwirionedd.
Crewch eich cymuned.
Byddwch yn dda i’ch gilydd.
A pheidiwch ag edrych i’r tu allan i chi’n hunan am yr arweinydd.
Gall hwn fod yn amser da! Mae yna afon nawr sy’n llifo’n gyflym iawn. Mae hi mor fawr ac mor gyflym fel bod rhai yn ofni. Fe fyddan nhw’n ceisio dal eu gafael ar y lan. Fe fyddan nhw’n teimlo eu bod yn cael eu rhwygo ac y byddan nhw’n dioddef yn enbyd. Boed i chi wybod fod i’r afon gyrchfan. Dywed yr Henaduriaid fod yn rhaid i ni ollwng gafael ar y glannau, ymwthio i ganol yr afon, cadw ein llygaid ar agor a’n pennau uwchlaw’r dwr.
A dywedaf wrthych am edrych i weld pwy sydd yno gyda chi a llawenhau. Ar yr adeg yma mewn hanes rhaid i ni beidio â chynryd dim yn bersonol, yn arbennig ni’n hunain. Oherwydd y funud y gwnawn ni hynny bydd ein twf ysbrydol a’n taith yn dod i ben.
Mae amser y blaidd unig wedi dod i ben. Ymglasglwch at eich gilydd!
Alltudiwch y gair ‘ymdrech’ o’ch meddwl a’ch geirfa. Rhaid i bopeth rydyn ni’n ei wneud nawr gael ei wneud mewn modd cysegredig ac yn llawen.
Ni yw’r rhai rydyn ni wedi bod yn aros amdanyn nhw.’
Oli Olwen, stori i blant
Oli Olwen, stori i blant gan Angharad Tomos.
Canolfan Astudiaethau Cymreig, Prifysgol Tübingen,
Canolfan Astudiaethau Cymreig, Prifysgol Tübingen, Yr Almaen.
Erthygl ddiddorol am fywyd a
Erthygl ddiddorol am fywyd a meddwl Antonio Gramsci. Dw i heb ddarllen Gramsci, dim ond enw yw e mewn llyfr Gwyn Alf Williams. Edrych ymlaen at ddarllen mwy o’i waith.
Oes gafr eto? Casgliad enfawr
Oes gafr eto? Casgliad enfawr o ganeuon gwerin Cymraeg a Chymreig.
[via haddock]
Ymchwiliad trefol. Un o’m hobiau
Ymchwiliad trefol. Un o’m hobiau llai call pan o’n i’n byw yng Nghaerddydd oedd dringo dihangfeydd tân swyddfeydd canol y ddinas a cheisio cyrraedd y to. (Fel arfer, ar ôl noson yn nhafarnau ein prifddinas). ‘Sdim byd well ‘na eistedd ar ben rhyw swyddfa cyfreithydd a gwylio’r traffig a’r bobl feddw yn y stryd islaw.
Chwilio am gymdeithas Wga-Bwga ar
Chwilio am gymdeithas Wga-Bwga ar y we…?
Ers dros blwyddyn, dw i wedi bod yn aelod o’r “weflog gymunedol” MetaFilter. Os ydy hi’n bosib i greu cymuned ar y we, MeFi yw’r esiampl orau sy ‘da ni, am wn i. Dyma’r sylwadau un aelod ar pam mae cymunedau ar-lein yn bwysig.
Mae gan MetaFilter dros 11,000 o aelodau, gyda falle 10% ohonyn nhw yn postio’u sylwadau’n gyson (dydw i ddim un o’r cyfranwyr mwya cyson - fel dwedodd y bardd, dw i’n sgwennu Saesneg fel iaith farw…). Fel arfer mae ‘na rhyw 20-30 o bynciau newydd i’w trafod bob dydd. Mae pethau wedi mynd bach yn wallgo ers digwyddiadau yn Efrog Newydd a DC, gyda llawer o aelodau newydd, a bron bob cadwyn trafodaeth newydd yn sôn am yr ymosodiadau bu neu’r rhai sy’n dod. Ond, fel arfer mae ‘na beth wmbredd o bynciau i’w trafod, gyda man dechrau bob un yn ddolen i rywbeth diddorol rhywle ar y we.
Fel cymuned go iawn, gallwch chi ddod ar draws bob math o berson a phob math o farn. Mae rhan fwya o’r aelodau’n dod o Ogledd America, ond mae ‘na ddigon o bobl Ewrop, Asia a lleoedd eraill i atal yr Iancs rhag mynd yn rhy hunan-obsesiynol. A nage, nid fi yw’r unig Cymro. Mae goleddf “rhydfrydig” (yn yr ystyr Americanaidd o’r gair) ar y safle, ond mae ‘na hefyd geidwadwyr sy’n cymryd rhan yn gyson. Mae croeso i bawb a’i farn, ond dydy’r cymuned ddim yn diodde pobl sy’n treillio (trolling? - pobl sy’n dweud pethau cas dim ond i wylltio pobl eraill) neu bobl sy anwybyddu llinellau mynegi‘r cymuned, a gafodd eu creu gan berchen y cymuned, Matt Haughie.
Pam ydw i’n sôn cymaint am MetaFilter, sydd, wedi’r cyfan, gwefan Americanaidd, Saesneg ei hiaith? Achos mod i’n meddwl am greu MeFiCymru, gan ddefnyddio’r côd “ffynnon agored” sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Fy syniad yw cael seiat trafodaeth Cymraeg ei hiaith ble y gallwn ni “rannu, cyfoethogi a’n dysgu ein gilydd”.
“Ond mae seiadau trafodaeth ‘da ni’n barod, y twpsin”, dw i’n eich clywed chi’n dweud yn syn.
Oes, ond ar hyn o bryd dim ond un (am wn i) sy’n cael ei defnyddio’n gyson, sef Seiat y Cynganeddwyr. Mae Negesfwrdd y Cymry Cwl yn beth eitha newydd, ond erbyn hyn mae rhan fwya o’r cadwynau trafodaeth wedi bod yn araf iawn i ddatblygu ac mae nifer o hybysebion arni hi’n cynyddu bob wythnos. Hefyd, mae ‘na leoedd fel Cylch Trafod Cymuned, ond mae llinell blaid mewn lleodd felly’n gallu troi’n gylch hudol sy’n cadw’r anghyfarwydd ma’s. Mae sawl rhestr e-bostio ‘da ni wrth gwrs, ond dim byd (eto, am wn i) sy’n uniaith Cymraeg neu sy’n trafod unrhywbeth ond y Gymraeg. Mae Usenet yn wlad y sbamwyr a’r treillwyr erbyn hyn, ondyfe?
Dydw i ddim yn debyg i wneud unrhywbeth ymarferol yn fuan. Ond unwaith bydd y côd ar gael, bydda i’n dechrau chwarae gyda fe ac ymchwilio’r posibiliadau. Os oes awgrymiadau ‘da chi, defnyddiwch y blwch trafod isod neu ebostiwch nhw ataf. Diolch.
Tro diwetha oedd fy ffrind
Tro diwetha oedd fy ffrind Jude ‘ma, collais i rhyw £10 mewn arian coch iddi yn chwarae Jac Du. Rhaid i mi ymarfer.
[via fark]
Next Page »