Pigyn Clust

Fe brynais CD newydd Pigyn Clust ddoe. Mae’r cerddoriaeth yn arddechog, fel arfer, ac mae’n braf gweld Idris Morris Jones yn gwenu fel ei alter ego ar y clawr (os dych ddim yn gwybod beth yw alter ego Idris, nid fy lle i yw e i’w ddweud). Ond tu mewn y clawr mae ’na lluniau mwya pornograffig welais erioed ar glawr CD cerddoriaeth gwerin Cymreig. Falle rhywfath o brawf meddyleg yw e, a fi sy ar fai am fod meddwl brwnt, plentynaidd ’da fi, ond so nhw edrych fel ffrwth i mi.

Falle mod i’n treulio gormod o’m amser ar y rhyngrwd.

Datganiad Cymdeithas yr Iaith

Datganiad Cymdeithas yr Iaith

Arestio Pedwar Aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr ymgyrch Deddf Eiddo.

Yn oriau mân bore heddiw am 1.30am arestiwyd pedwar aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, tu allan i’r brif swyddfa yn Aberystwyth, am fod ym meddiant pentwr o arwyddion ‘Ar Werth’. Roedd yr aelodau wedi eu casglu fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Eiddo ac wedi bwriadu eu defnyddio mewn protestiadau ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cawsant eu cadw yn y ddalfa dros nos cyn cael eu rhyddhau gyda rhybydd.

Myfyrwyr oedd y pedwar ohonynt, sef Ffion Mai, Aled ap Iwan, Heledd Gwyndaf a Huw Lewis oll o Geredigion.

Daw’r gweithredu hwn ychydig ddyddau cyn cychwyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych lle bydd gan Gymdeithas yr Iaith raglen lawn o weithgareddau. Ar y dydd Gwener cynhelir protrest ar faes yr Eisteddfod yn galw am Ddeddf Iaith a Deddf Eiddo.

Ym mis Medi bydd y Gymdeithas yn cynnal Rali Glyndwr tu allan i’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd yn galw ar y sefydliad i withredu dros y Gymraeg a chymunedau Cymru. Am wythnos cyn y rali bydd Ffred Ffransis yn ymprydio tu allan ‘r Cynulliad er mwyn pwysleisio difrifoldeb y sefyllfa bresennol.

Mwy o wybodaeth:
Swyddfa Cymdeithas yr Iaith – (01970) 624501
cymdeithas.com