Wil Weaton, druan

Drueni fues i ddim yn “Star Trek” – mae pawb yn hoffi’r blogwr newydd ar y bloc, y boi oedd yn chwarae Wesley Crusher. Mae e’n cwyno bod un neu ddau berson ar Metafilter wedi dweud pethau cas: os ydy e am fywyd tawel, heb ymwelwyr, heb sylwadau yn y fforwm trafod, heb unrhyw ymateb ond ‘ere, you wrote about my website in your funny language – what’dja say?, dylai fe drïal gweflogio yn y Gymraeg.

Chwerw, finnau?

Hei, falle bydd e’n dod ar draws hyn yn ei referrer logs a chwyno bod ’na bobl yn siarad amdano mewn ieithoedd dieithr, hefyd.

Dwy neges gan Cymuned

Dwy neges fer oddi wrth Cymuned:

CYFARFOD CRYMYCH. 2 o’r gloch pnawn Sadwrn, 8 Medi 2001 yn Theatr y Gromlech. Siaradwyr: Tecwyn Ifan, Glyn Powell, Moelwen Gwyndaf, Simon Brooks. Lluniaeth yn y neuadd a’r Crymych Arms; adloniant yn hwyrach yn London House. DEWCH i gefnogi ac i dynnu sylw at broblem y mewnlifiad yn ardaloedd deheuol Cymru.

SWYDDOG GWEINYDDOL. Lleoliad – Aberystwyth; 15-20 awr yr wythnos; cyflog @ ’14,000 pro rata; rhaid wrth brofiad o Word, Access a’r We; i ddechrau 1 Hydref. Manylion/ceisiadau (ar ffurf llythyr + CV) erbyn 17 Medi i swyddfa Cymuned. (Ffôn dydd am y tro: 01970 832 304). A wyddoch chi am rywun da?

Prynhawn Da a choes gig oen

Mae Philippa wedi mynd i Lanelli i ymddangos ar raglen S4C digidol Prynhawn Da. Ro’n i’n mynd i fynd gyda hi ond ro’n i’n ddigon lwcus i ennill yr wobr gyntaf mewn raffl neithiwr – coes enfawr cig oen. Felly, mae rhaid i fi aros gartre a’i choginio. Dw i erioed wedi coginio darn o gig mor fawr.

Prynais i’r tocyn ar ôl treilio pump awr rhedeg stondin bric-a-brac yn y pentre, codi arian i Gronfa’r Milflwyddiant. Fel arfer, dw i ddim yn treulio lot o amser edrych ar ymwelwyr yn Llangrannog. Dyw hi ddim yn brofiad dymunol, ar y cyfan.

Y bore ’ma, gyrrais i Aberteifi i fynd â’r gweddillion y stondin i siop Oxfam. Gwrando ar Libertino yn y car – fy hoff tâp ar hyn o bryd.

Dyddiadur Steddfod

Dyddiadur Steddfod (yn Saesneg, y rhan fwya) gan Lewis Malu Cachu.

I also talk to Padi from CYD, who insists on talking Welsh (a good thing – I resort to English far too easily for my own good), and I have my first extended conversation in my second language. I feel very proud of myself as I leave the pabell – not only have I actually spoken to a stranger in Welsh, but Ive also coped easily with two surprise attacks of Welsh already. As Eifion points out, though, this is the Eisteddfod and to have people talk to me in Welsh is hardly a surprise per se, but thats not the point. The point is that people said stuff to me in Welsh that I wasnt expecting, and not only did I understand, I responded intelligibly. Ish.

Llongyfarchiadau i Michelle ac Alun

Llongyfarchiadau i Michelle ac Alun ar enidigaeth Tirion.

Ces i dipyn o sioc pan siarades â fy mam y bore ’ma:

Your cousin’s had a baby. They’re calling it Tiffany

Grêt, meddylies, babi Cymraeg cynta yn ein teulu ers cenedloedd, ac maen nhw wedi ei henwi ar ôl cymeriad Eastenders.

Ffonodd nhad heno i ddweud taw ar fy nain oedd y bai; oedd hi mor falch cael ei gor-wyres cyntaf doedd hi ddim wedi clywed yr enw yn iawn, a ddim wedi gofyn cwestiynau.

Ta beth, da iawn Michelle, a chroeso i’r byd, Tirion fach.