Mwy am Gymuned

Ar ôl i mi ddweud ddoe bod diddordeb ’da fi yn y mudiad newydd Cymuned, daeth e-bost oddi wrth Owen Thomas, Llambed:

Yr oeddwn i yn y cyfarfod ddydd Sadwrn wedi teithio bob cam o Lambed i Fynytho mewn tua theirawr ac oherwydd ei bod hi mor llawn bu’n rhaid imi aros tu allan yn y gwynt a’r glaw ond yr oedd y cyfarfod ei hun yn wefreiddiol, yn eli i’r galon. Ar ôl misoedd o gael ein galw’n hilgŵn gan bob plaid dan haul o’r diwedd dyma gyfle i Gymry Cymraeg leisio eu barn hwy ynghylch pwysigrwydd diogelu cymunedau Cymraeg.

Gallwch ddarllen gweddill neges Owen yma, a mae gyda fe erthygl yn rhifyn newydd Barn (sy’n sôn am Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Sir Ceredigion).
Yn ôl datganiad Cymuned (hefyd yn Barn y mis ’ma), maen nhw’n galw yn benodol am:

  1. fynd i’r afael â’r mewnlifiad anferth o siaradwyr uniaith Saesneg i’n bröydd Cymraeg gan sefydlu rheolaeth gymunedol ar bolisi tai yn yr ardaloedd hyn;
  2. fynd i’r afael â’r all-lifiad o’r boblogaeth Gymraeg ei hiaith o’n bröydd Cymraeg gan roi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad dai a darparu swyddi cymwys ar eu cyfer;
  3. ryddhau adnoddau i’r cymunedau Cymraeg a fydd yn eu galluogi i gymhathu’r mewnfudwyr uniaith Saesneg a datlblygu polisïau penodol a fydd yn cryfhau Cymreictod yr ardaloedd Cymraeg.

Fe allwch gysylltu â Cymuned gan hala ebost at cymuned@cymuned.org neu gan lythyr d/o Y Lolfa, Talybont, Ceredigion.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>