Blacktop

Yr oedd yr arddangosfa yn siomedig braidd – doedd y lluniau y y Tabernacl ddim cystal â rhain ar y wefan hon.

Roedd Machynlleth yn brysur iawn – oes ’na fwymwy o siopau ‘pethau del’ bach nag oedd ’na, neu ydw i’n dychmygu pethau?

Treuliais i dair awr yn llyfrgell Huw Owen, darllen hen gopiau Barn a Planet. Ond y peth gorau ffindais i oedd erthygl Sight and Sound o 1970 oedd yn sôn am fy hoff ffilm erioed, Two Lane Blacktop.

[Gol. 21/11/09 trwshio linc mewnol.]

Y Ffordd Ymlaen?

Y Ffordd Ymlaen? – neges, neu erhygl braidd gan “Llion Bach” ar negesfwrdd y Cymry Cwl.

Yn boenus o syml, y ffordd i arbed yr iaith yw hon: mynnu ei pharhad. A’r unig ffordd i iaith barhau yw iddi gael ei defnyddio. Yn y dechreuad yr oedd y gair. A anghofiwyd y gwirionedd syml hwnnw? Siaradwn Gymraeg, felly, a siaradwn Gymraeg ym mhobman, gyda phawb. Siaradwn gyda’r Cymro, y Sais; yr Albanwr, yr Almaenwr; y Pacistani a’r Pwyl: pawb sydd yn byw neu yn gweithio yng Nghymru. Pawb. Yn ddieithriad. Yr unig bryd y trown at y Saesneg fydd er mwyn esbonio ymadrodd chwithig neu air newydd i’r sawl sy’n dysgu. Oherwydd nid cenedl o’r Gymraeg a’r di-Gymraeg mohonom bellach, ond cenedl o ddinasyddion sydd naill ai’n medru’r Gymraeg, neu’n ei dysgu.

Ar ôl darllen erthygl yn y Teifi Seid sy’n dweud bod Seimon Glyn yn “braidd yn hiliol”, rwy’n un cam agosach at derbyn her Llion. Rwy’n gwybod yn fy nghalon ei fod e’n hollol iawn, bod ein hunig gobaith yw i beidio troi i’r Saesneg er mwyn bod yn gwrtais wrth pobl sy ddim yn fodlon dysgu iaith y wlad maen nhw’n byw ynddi.

Mynd i Fachynlleth

Bydden ni’n mynd i Fachynlleth dydd Gwener, i ymweld â’r Tabernacl (lle mae arddangosfa gan Craigie Aitchinson, artist o’r Alban) ac edrych yn siopiau llyfrau’r dre. Wedyn, i Aberystwyth i’r Lyfrgell Genedlaethol – ‘sdim clem ’da fi beth sy ymlaen ’na, achos does dim sôn am arddangosfeydd ar eu gwefan, am wn i.

[Gol. 21/11/09 - dolenni MOMA ac Aitchinson wedi marw. Gwefan MOMA nawr yn uniaith Saesneg. Pethau wedi gwella yn y Llyfrgell.]

Croeso i Gymru?

Croeso i Gymru?

Erthygl gan un o’r cyfranwyr fforwm Twristiaeth ac Iaith yng Ngorllewin Ewrop nôl ym mis Ebrill.

Eto i gyd, tystia profiad trefi gwyliau poblogaidd megis y Rhyl, Benllech, Aber-soch, Bermo, y Borth a Llangrannog mai colli iaith a chymdeithas yw’r pris a delir yn y tymor hir.

Wi’n cofio’r Rhyl o’r tripiau Ysgol Sul di-rif fy mhlentyndod, ac ymwelais â Bermo dydd Sadwrn gyda fy nghyd-fyfyrwyr ar y Radd Allanol, felly i weld Llangrannog yn y fath rhestr oedd tipyn o sioc i’r sustem. Ai hynny’r ffordd dyn ni’n mynd?

Gwyn ap Nudd

Wrth darllen Cyflwyno’r Iaith Lenyddol, fe ddes i ar draws y gerdd hon:

Gwyn ap Nudd

Gwyn ap Nudd, Gwyn ap Nudd,
Lliw y lloer sydd ar dy rudd;
Cerddi’n ddistaw fel y nos
Drwy y pant a thros y rhos;
Heibio i’r grug a’r blodau brith
Ei, heb siglo’r dafnau gwlith:
Gwyddost lle mae’r llyffant melyn
Yn lletya rhwng y rhedyn;
Gwyddost lle daw’r gwenyn dawnus
I grynhoi eu golud melys:
Gweli’r hedydd ar ei nyth,
Ond ni sethri’r bargod byth;
Gwyn ap Nudd, Gwyn ap Nudd,
A lliw y lleuad ar dy rudd.

Elfed

Hyfryd iawn, a dealladwy hyd yn oed i fi (mae ’na obaith, ’te!). Ond, jyst i ddangos pa mor anwybyddus ydw i, doedd dim syniad ’da fi pwy oedd ‘Gwyn ap Nudd’. Wel, rwy’n gwybod nawr.

Mwy am Gymuned

Ar ôl i mi ddweud ddoe bod diddordeb ’da fi yn y mudiad newydd Cymuned, daeth e-bost oddi wrth Owen Thomas, Llambed:

Yr oeddwn i yn y cyfarfod ddydd Sadwrn wedi teithio bob cam o Lambed i Fynytho mewn tua theirawr ac oherwydd ei bod hi mor llawn bu’n rhaid imi aros tu allan yn y gwynt a’r glaw ond yr oedd y cyfarfod ei hun yn wefreiddiol, yn eli i’r galon. Ar ôl misoedd o gael ein galw’n hilgŵn gan bob plaid dan haul o’r diwedd dyma gyfle i Gymry Cymraeg leisio eu barn hwy ynghylch pwysigrwydd diogelu cymunedau Cymraeg.

Gallwch ddarllen gweddill neges Owen yma, a mae gyda fe erthygl yn rhifyn newydd Barn (sy’n sôn am Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Sir Ceredigion).
Yn ôl datganiad Cymuned (hefyd yn Barn y mis ’ma), maen nhw’n galw yn benodol am:

  1. fynd i’r afael â’r mewnlifiad anferth o siaradwyr uniaith Saesneg i’n bröydd Cymraeg gan sefydlu rheolaeth gymunedol ar bolisi tai yn yr ardaloedd hyn;
  2. fynd i’r afael â’r all-lifiad o’r boblogaeth Gymraeg ei hiaith o’n bröydd Cymraeg gan roi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad dai a darparu swyddi cymwys ar eu cyfer;
  3. ryddhau adnoddau i’r cymunedau Cymraeg a fydd yn eu galluogi i gymhathu’r mewnfudwyr uniaith Saesneg a datlblygu polisïau penodol a fydd yn cryfhau Cymreictod yr ardaloedd Cymraeg.

Fe allwch gysylltu â Cymuned gan hala ebost at cymuned@cymuned.org neu gan lythyr d/o Y Lolfa, Talybont, Ceredigion.