Amlieithrwydd ar y we

Dau erthygl NUblog am amlieithogrwydd ar y we: multilingual content a multilingualism redux.

Dylen nhw fod yn ddefnydd darllen gofodol i unrhywun sy’n cynllunio gwefannau dwy- neu aml-ieithog.

O’r ail erthygl:

Ideally, you should be able to hand your translators finished HTML pages. They should know how to translate every snippet of text, including the <TITLE> of each page, metatags, ALT texts, and any text inside an HTML tag, including TABLE, the Hx series of heading tags, and everything else. In effect, they need to be qualified Web authors as well as translators.

A sawl gwaith ydych chi wedi clecian ar botwm cymraeg i ffeindio’ch hunan edrych ar neges under construction?

…which languages do you update first? Or do you update none of them until all languages have been translated? (The latter is the better way, unless you want foreign-language speakers to get the impression they aren’t wanted on the voyage.)

Rhywbeth i gnoi cil drosto.

Kaycee Nicole

A Beautiful Life, an Early Death, a Fraud Exposed – mae hanes Kaycee Nicole wedi cyrraedd y New York Times, pythefnos ar ôl “marwolaeth” Kaycee.

Ro’n i’n dilyn y stori wrth iddo ddatblygu ar Metafilter a ches i ddim llawer o gwsg dros y penwythnos ’na. Anhygoel. Dw i ddim yn nabod unrhywun o’r bobl yn yr erthygl, ond dw i yn darllen eu gwefannau bob dydd. Roedd hi tipyn bach fel gwilio grwp o bobl cael newyddion drwg mewn ysbyty, ond mewn symudiad araf. Arswydus.

Cofiwch, fyddai rhywbeth fel hyn byth yn digwydd yng Nghymru. Fel mae bob feteran Wlpan yn gwybod, Mae pawb yn nabod pawb yng Nghymru.

Dechrau cyfieithu pethau

Wedi dechrau ychwanegu peth o gyfieithiadau gyda’r cyhoeddiad ’ma, ar ran y llu o ddysgwyr sy’n darllen Morfablog ;-) . ‘Sai rhaid i mi chwilio am air yn y geiriadur, bydda i’n ei roi y Saesneg mewn label <title> a gallwch symud eich llygoden bach dros y gair i weld y cyfieithiad. Dyw’r tric ’ma ddim yn gweithio gyda hen boryddion – os dych chi ddim yn gweld y cyfieithiadau mae’n hen amser i chi ddiweddaru eich porydd

Bydd Philippa yn ôl o Ddyfnaint fory, dyna fydd diwedd yr adeg hiraf i fi fod ar mhen fy hunan ym Maesymorfa. Edrychaf ymlaen, o boi.

Rwy’n anobeithiol byw ar mhen fy hunan. Rwy wedi bod yn bwyta’n wael iawn, brechdanau, wyau wedi frïo, bisgedi; yfed gormod (daeth Jude ac Al â photel o Laphroig i mi); a wastraffu oriau ac oriau chwarae gemau cyfrifiadur – fel gofynodd Bill Hicks, what am I, thirteen, emotionally?

Peth arall yw, dw i ddim yn gallu ymdopi â’r anifeiliaid heb gymorth Philippa. Mae Cochen, y fuwch wallgo, wedi dechrau gwasod y bore ’ma, ceisio dringo ar gefn Siriol, y Jersey dof, ac yn anwybyddu ei llo ei hunan yn llwyr. Ches i ddim ond dau beint o laeth oddi wrth Siriol, cyn iddi hithau fynd yn wallgo hefyd, a’r ddwy ohonyn yn crwydro o gwmpas y clós fel y bechgyn yn West Side Story. Brysia nôl Philippa, brysia nôl.

Rhywbeth rwy wedi anghofio sôn amdanyn fan hyn: fe welon ni gyngerdd arbennig o dda gan Fernhill a LLio Rhydderch, nos Sadwrn yn y Mwldan. Fe ganodd Julie Murphy Song to the Siren gan Tim Buckley – roedd cymaint o drydan yn yr awyrgylch, fe ffrwydrodd toddyn ac aeth y pwer bant! Meddai hi, “Fe ddigwyddodd yr un peth yn Pakistan”.

Roedd Llio Rhydderch yn ddatgyddiad. Ro’n i wedi clywed ei chryno disc Mihangell, sy’n ddigon dymunol, ond yn fyw oedd y stori yn hollol wahanol. Pan daeth hi i’r llwyfan oedd hi’n edrych fel athrawes ysgol Sul, mewn ffrog flodeuog a bag bach lledr du, ond pan dechreuodd hi ganu’r delyn oedd pawb yn gwybod taw mewn cwmni angelion o’n ni.