Dechrau cyfieithu pethau

Wedi dechrau ychwanegu peth o gyfieithiadau gyda’r cyhoeddiad ’ma, ar ran y llu o ddysgwyr sy’n darllen Morfablog ;-) . ‘Sai rhaid i mi chwilio am air yn y geiriadur, bydda i’n ei roi y Saesneg mewn label <title> a gallwch symud eich llygoden bach dros y gair i weld y cyfieithiad. Dyw’r tric ’ma ddim yn gweithio gyda hen boryddion – os dych chi ddim yn gweld y cyfieithiadau mae’n hen amser i chi ddiweddaru eich porydd

Bydd Philippa yn ôl o Ddyfnaint fory, dyna fydd diwedd yr adeg hiraf i fi fod ar mhen fy hunan ym Maesymorfa. Edrychaf ymlaen, o boi.

Rwy’n anobeithiol byw ar mhen fy hunan. Rwy wedi bod yn bwyta’n wael iawn, brechdanau, wyau wedi frïo, bisgedi; yfed gormod (daeth Jude ac Al â photel o Laphroig i mi); a wastraffu oriau ac oriau chwarae gemau cyfrifiadur – fel gofynodd Bill Hicks, what am I, thirteen, emotionally?

Peth arall yw, dw i ddim yn gallu ymdopi â’r anifeiliaid heb gymorth Philippa. Mae Cochen, y fuwch wallgo, wedi dechrau gwasod y bore ’ma, ceisio dringo ar gefn Siriol, y Jersey dof, ac yn anwybyddu ei llo ei hunan yn llwyr. Ches i ddim ond dau beint o laeth oddi wrth Siriol, cyn iddi hithau fynd yn wallgo hefyd, a’r ddwy ohonyn yn crwydro o gwmpas y clós fel y bechgyn yn West Side Story. Brysia nôl Philippa, brysia nôl.

Rhywbeth rwy wedi anghofio sôn amdanyn fan hyn: fe welon ni gyngerdd arbennig o dda gan Fernhill a LLio Rhydderch, nos Sadwrn yn y Mwldan. Fe ganodd Julie Murphy Song to the Siren gan Tim Buckley – roedd cymaint o drydan yn yr awyrgylch, fe ffrwydrodd toddyn ac aeth y pwer bant! Meddai hi, “Fe ddigwyddodd yr un peth yn Pakistan”.

Roedd Llio Rhydderch yn ddatgyddiad. Ro’n i wedi clywed ei chryno disc Mihangell, sy’n ddigon dymunol, ond yn fyw oedd y stori yn hollol wahanol. Pan daeth hi i’r llwyfan oedd hi’n edrych fel athrawes ysgol Sul, mewn ffrog flodeuog a bag bach lledr du, ond pan dechreuodd hi ganu’r delyn oedd pawb yn gwybod taw mewn cwmni angelion o’n ni.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>