Prynu Peter Lord

Defnyddiais i nhocyn Amazon i archebu llyfr newydd gan Peter Lord Delweddau’r Genedl. Mae’n debyg does neb yn siarad Cymraeg yn Amazon: yn eu hôl nhw, teitl y llyfr yw ‘Diwylliant’.

Beth bynnag, mwynhais i’r llyfr cynta yn y cyfres (yn Saesneg) a wi’n edrych ymaen at darllen yr ail.

Mae Peter Lord yn un o’r tiwtoriaid ar y radd allanol ac yn gymrawd ymchwil ac arweinydd Prosiect Diwylliant Gweledol Cymru. Fe wnaeth e gyflwyniad i’r pwnc yn y seminar Dehongli Cymru ym Mhantycelyn dros y Pasg.

Gair o’r Cadeirydd

Gair o’r Cadeirydd – o’n i’n cael gip ar wefan Adeiliad Newydd Ein Cynulliad Ni, pan sylwais gyfeiriad at Cadeirydd Mao. Edrych ar y dewislen de top. A pham mae tagiau <title> ac enwau ffeiliau HTML yn Saesneg? Ac ar y fersiwn Saesneg mae ’na ddau ddolen i’r fersiwn Cymraeg, un sy’n gweithio yn iawn, ac un sy’n pwyntio yn ôl at y fersiwn Saesneg. Ar y fersiwn Gymraeg, ar ôl y tudalen gynta does dim dolen i’r fersiwn Saesneg, achos bod nhw wedi copio cynllun y tudalen Saesneg, gan gynnwys dolen i’r fersiwn Gymraeg.

Google yn y Gymraeg

Google yn y Gymraeg – ddoe, ail-osodais i iaith default Internet Explorer i cy (sef, Cymraeg). Heddiw, oedd rhaid i mi ymweld â Google i chwilio am rywbeth, a mae popeth yn y Gymraeg. Dyma’r tro cynta dwi wedi gweld y tric bach ’ma, ac am wn i does dim gwefan poblogaidd arall sy’n ei wneud.

Os wyt am newid dy osodiadau, rho glec ar Tools, Interet Options, ac wedyn Languages. Wedyn, clec ar y botwm Add ac yn y bocs User Defined teipia cy a chelc ar OK. Yn ola, clec ar y llinell sy’n dweud User defined [cy] ac ar y botwm Move up. A dyna fe, Cymraeg yw dy iaith o ddewis. Wrth gwrs, dim ond Google fydd yn gwybod.

Byd y Beirdd a’r toeau bach colledig

Byd y Beirdd – ffynnon wych (gwell i mi beidio sôn am gynllun y wefan) am farddoniaeth i blant, gan gynnwys pawb o Taliesin i Dewi Pws.

Un nodyn bach am y cynllun, achos mae wedi fy ngwylltio: mae’r holl safle yn defnyddio’r ffont Afallon, sy’n cynnwys ‘w’ a ‘y’ gyda hirnod. Ond, os dych chi ddim wedi gwario mwy na £20 am y ffont arbennig hon, mae bob ‘w’ gyda hirnod yn edrych fel hyn:

Daear las yw d�r ei lyn

Ac yn y blaen. Grrr.

Y neges yw: peidiwch â defnyddio ffontiau arbennig ar eich gwefannau – dyn nhw ddim yn gweithio.

Dirgel Dyn

Newydd gorffen Dirgel Dyn gan Mihangel Morgan. Sa i’n siwr beth wi’n meddwl amdano fe, eto, ond oedd y stori yn gryf iawn. Falle oedd y cymeriadau tipyn bach yn stereotyped? Mae’r llyfr hwn ar y rhestr darllen am flwyddyn gynta’r radd allanol, felly bydd rhaid imi ddarllen ‘to.

Llyfr nesa yw Crac Cymraeg gan Robat Gruffudd.

How To Save Canadian Literature

How To Save Canadian Literature

What happens when arts council budgets are cut? What if a publisher gets cut off altogether? This sort of dependency is not healthy. Fortunately, there is a better way: publishers can launder money for organized crime! Let’s see how it could be done…

Fyddai hyn yn gweithio gyda llên Gymraeg, dych chi’n meddwl? Byddai’n rhoi ysteried newydd sbon i’r gair ‘Taffia’. Gall y Cyngor Celf newid ei enw i “Cyngor Celfyddydau/Cyffyriau Cymru”.

Fy hoff ddyfyniad:

Besides, who do you think smoked all that dope in the first place?

[via textism]