Geiriau caredig oddi wrth Tom Cosgrave:
Now this is cool – a link from a weblog about Dublinstories – ordinary enough you might think, except this is one is Welsh. Nick makes me feel guilty. He can communicate in his native language better than I can mine (Irish), and he can do it when English is by far the language of choice, and the first language of almost everyone in the UK and Ireland.
Nawr ‘te, rhaid i mi ysgrifennu rhywbeth ar yr wefan hon.
Wedi bod yn gweithio gyda ffrindiau o’r grwp CYFLE Teifi Taf, yn eu helpu symud coed tân o’r allt tu ôl i’w tŷ. Gwaith caled, ond digon o fag breaks a dau bryd o fwyd hyfred.
Daeth un o’m cydweithwyr â’i merch, Jasmine. Dw i erioed wedi teimlo mor hen ag o’n i’n teimlo gwilio’r ferch ’na rhedeg lan yr allt, tra mod i bron yn cropian yn ei hôl hi. Tri deg pedwar ydw i, pedair ar ddeg ar hugain, ond dw i’n teimlo, ac yn edrych, fel Jock Stein.
Dyna oedd y tro cyntaf (hyd y gwn i) i rywun di-Gymraeg sylwi ar Morfablog. Roedd linc i flog Tom Cosgrave ar y pryd (tomcosgrave dot com), ond mae hwnna bellach yn sbalflog, felly dw i wedi dileu’r linc, a rhoi linc i ffrwd Flickr Tom yn ei le.
Roedd y linc i’r llun o Jock Stein wedi marw, wedi rhoi linc Wikipedia yn ei le.
Mae’r linc i wefan Teifi Taf wedi marw hefyd. Mae fy mlog am fyw ar LETS yn dal i fyw, sy’n neis.