Morfablog

Jump to content.

Chwilio

Methu newid fy smotiau

Buwch Goch Gota

Yn ôl, eto. Och.

Felly, dyna fi, darllen hwn ar maes-e, a meddwl i fy hunan, “dw i’n siwr i mi bostio rhywbeth am hyn amser maith yn ôl ar y blog.” Mynd at Google wedyn, a ffeindio bod yr holl safle wedi mynd pen-ôl i fyny ers i mi guddio’r dudalen flaen wythnos diwetha.

Wedyn, ac wedyn, ac wedyn.

Saith mlynedd eto, falle.

(Dyma’r blogiad am faneri ac iaith sgwennais i nôl yn 2004.)

Marillion, Grendel, a hynny i gyd

Ar yr un llaw, sut wnaeth band mor anhygoel o anghŵl a derivitive lwyddo llenwi Odeon Hammersmith a chyrraedd rhif 1 yn y siartiau yn yr 80au cynnar?

Ar y llaw arall, wnes i grio uwchben y sinc wrth wrando ar hon bore ddoe.

Does dim esgus yn y byd, mae e tu hwnt i bob dadl “pleserau euog”. Dw i’n gwybod yn iawn y dylwn i fod wedi bod yn gwrando ar Joy Division neu rywbeth, ond y gwir syml yw, yn 1983, yn y myddarffycin Waun, doedd dim byd yn well na hyn:

Nid bod neb yn darllen o hyd, ond oedd gan fy ffrind M.O., yr un wnes i deithio gyda fe i Lundain bell i weld y bois ‘ma, Mini 1275 GT gyda’r enw “GRENDEL” yn y striben haul. Mae’n haws ffeindo trivia am y band di-werth yma ar y we nag yw e ffeindio tystiolaeth marwolaeth gwastraffus nghyfaill. Ac er eu bod yn ddi-werth, wrth gymharu â Velvet Undergrounds, Van Morrisioniaid a Datblygiadau’r byd roc byd eang, dw i ddim yn credu y bydd yr un band arall â’r gallu torri nghalon mor gyson â’r band yma.

Noson Datblygu yn Aber

Datblygu - Y Llwch ar EIch Sgrîn

Hir bu’r aros, ond mae sesiynau Peel gan Datblygu yn cael eu rhyddhau ar CD am y tro cyntaf. I lansio’r CD - a fydd yn cynnwys y ddau sesiwn ola, sy erioed wedi’u rhyddhau yn swyddogol o’r blaen - mi fydd noson o ffilmiau bychain yn y Drwm yn Aberystwyth.

Manylion llawn ar Feibl Datblygu.

w00t!

Big Lebowski, yn Helvitica

Sain sy ddim yn saff i’r gweithle - (audio NSFW).

Hefyd: Fear and Loathing, V For Vendetta, ac yn y blaen.

Hanes “Hallelujah”

“It Doesn’t Matter Which You Heard”, erthygl wych ar hanes cân Leonard Cohen Hallelujah, o’r ail-fersiwn cynnar gan John Cale, i fersiwn iconaidd Jeff Buckley, i’w lle presenol fel y gân i fynd amdani pan mae angen cerddoriaeth gefndirol i “sad montage” mewn opera sebon neu sit-com. Un o brif bwyntiau’r awdur yw bod ‘na ddim ots pa fersiwn yw’r un glywi di’n gyntaf, a does dim ots pa mor bell mae’r broses o gomodificeiddio (mae’n flin ‘da fi) y gân yn mynd - ac mae wedi’i chanu ar American Idol erbyn hyn - dyma un o’r caneuon prin ‘na sy’n mynd yn syth at dy galon, fel taw tithau yw’r person cyntaf i’w chlywed erioed.

Fersiwn y Leni Mawr clywais i gyntaf, wedyn Buckley sbo, ac mae’r ddau fel petai yn byw yn stafelloedd gwahanol nghof cerddorol. Dim un sy’n rhagori ar y llall, ac os ydw i’n troi at fersiwn Buckley yn fwy aml nag at y gwreiddiol, ei rinweddau megyddol sy’n gyfrifol am hynny: mae’n fel pigiad morffîn pan dw i’n teimlo’n isel.

Ond, eithr ac aros funud, diolch i’r trafodaeth ar Metafilter, dw i wedi darganfod fersiwn newydd i fi, sef yr un isod recordiwyd gan k.d.lang yn 2005 yn Sydney. Os ydy hi’n wir, fel y hawliwyd yn yr edefyn ar Mefi, taw cân am ryfeddodau’r orgasm benywaidd yw Hallelujah, dyna un rheswm arall i ddifaru bod k.d. yn chwarae i dîm Sappho.

(O.N. Peidiwch chwilio YouTube am fersiwn Jon Bon Jovi. Does dim un gân yn y byd sy mor gryf â hynny.)

Star Wars gan Saul Bass

Next Page »